Agenda item

Risgiau corfforaethol

Cofnodion:

ARAC (05-20) Papur 7 - Risgiau corfforaethol

ARAC (05-20) Papur 7 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol

ARAC (05-20) Papur 7 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd

 

10.1     Cyflwynodd Dave Tosh yr eitem hon ac amlinellodd y newidiadau a wnaed i'r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol yn dilyn adolygiad gan y Bwrdd Gweithredol ar 23 Hydref.

10.2     Cwestiynodd Aled Eirug sgorio'r risg mewn perthynas â Newid Cyfansoddiadol y DU o ystyried yr effaith sylweddol y byddai'n ei gael ar y Comisiwn ac ymdriniwyd â hyn o dan eitem 11.

10.3     Mewn perthynas â’r risg o ran cydymffurfio â risg Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn, ychwanegodd Arwyn Jones sicrwydd pellach fod datblygu atebion dros dro a hirdymor i ganiatáu cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd preifat ar y gweill. Roedd swyddogion, gan gynnwys Arwyn a Phennaeth TGCh, wedi bod yn ymgysylltu'n rhagweithiol â Microsoft, Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg a nododd y Pwyllgor gydnabyddiaeth fod y Comisiwn yn arwain y maes ar ddatblygu swyddogaethau cyfieithu i hwyluso gweithio o bell yn ddwyieithog.

10.4     Cydnabu’r Cadeirydd yr ymdrech sylweddol gan y tîm TGCh ac eraill i ddod o hyd i ateb ochr yn ochr â galluogi busnes rhithwir a hybrid y Senedd. Nododd fod y cyflawniadau hyd yma wedi dangos bod y Comisiwn yn gwneud cymaint â phosibl i liniaru'r risg. Croesawodd gynnwys y risg ar Gofrestr o Risgiau Corfforaethol y Comisiwn a diolchodd i swyddogion am y diweddariad. Gofynnodd hefyd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.

10.5     Trafododd y Pwyllgor y risgiau o ran Etholiadau’r Senedd yn 2021 mewn perthynas â chyfathrebu ac ymgysylltu a'r goblygiadau i'r Comisiwn pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i newid dyddiad yr etholiad oherwydd Covid-19.

10.6     Trafododd aelodau'r pwyllgor yr heriau sy'n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol yn ystod cyfnod etholiad, yn enwedig o ystyried cyd-ddigwyddiad etholiadau'r Senedd ac etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

10.7     Dywedodd Arwyn y byddai canlyniadau pleidleisio yn llywio’r gwaith o dargedu a theilwra cyfathrebiadau, er enghraifft er mwyn annog pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio. Ychwanegodd y byddai cyfathrebu'n canolbwyntio ar hyrwyddo cyflawniadau'r Senedd o ran y gwahaniaeth yr oedd wedi'i wneud i bobl Cymru, a sut roedd hyn wedi'i lywio gan dystiolaeth a ddarparwyd i bwyllgorau'r Senedd. Ychwanegodd fod risgiau eraill, megis defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth ymgyrchu hefyd yn cael eu hasesu.

10.8     Eglurodd Siwan Davies y rhesymeg dros gyflwyno risg gorfforaethol newydd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021.  Amlinellodd ymgysylltiad parhaus y Comisiwn â Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys drwy aelodaeth o'r Grŵp Cynllunio Etholiadau, a oedd yn llywior gwaith o gynllunio senarios a digwyddiadau wrth gefn ar gyfer cynnal etholiadau’r Senedd yn ystod y pandemig. Roedd swyddogion hefyd mewn cysylltiad â Senedd yr Alban o ran trefniadau yn yr Alban.

10.9     Dywedodd Siwan fod y Prif Weinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn debygol o gyflwyno deddfwriaeth frys i, ymhlith pethau eraill, ddarparu pŵer i'r Llywydd amrywio dyddiad etholiadau'r Senedd y tu hwnt i'r mis cyfredol, a lleihau'r cyfnod diddymu, i ddarparu ar gyfer parhad y senedd.

10.10 Amlinellodd Siwan y goblygiadau sylweddol i'r Comisiwn o symud dyddiad yr etholiad ond nododd ymrwymiad yr holl bleidiau i gynnal yr etholiad ar 6 Mai fel y cynlluniwyd. Amlinellodd faterion fel y posibilrwydd o fyrhau'r cyfnod diddymu, newidiadau i'r defnydd o adnoddau ar gyfer Aelodau'r Senedd, yr effaith ar staff ac adnoddau ariannol, agoriad swyddogol y Senedd newydd, ac ethol Llywydd newydd.

10.11 Roedd swyddogion hefyd mewn cysylltiad â Senedd yr Alban ar y ddeddfwriaeth yr oeddent yn ei phasio.

10.12 Nododd y Pwyllgor lefel y gweithgarwch i liniaru'r risgiau cyn belled ag y bo modd, yr ymdrech a oedd yn cael ei rhoi i gynllunio senarios a digwyddiadau wrth gefn ac y byddai mwy o eglurder ym mis Chwefror.

10.13 Croesawodd y Pwyllgor fod y risgiau corfforaethol yn cael eu rheoli ar y cyd o ran effaith Covid a Chyfnod Pontio’r UE ar fusnes y Comisiwn a'r Senedd a gofynnodd am gael eu diweddaru ar ddatblygiadau.