Agenda item

COVID-19 - Diweddariad corfforaethol

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

 

3.1         Rhoddodd Dave Tosh ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y trefniadau sydd ar waith ar yr ystâd a llwyddiant parhaus busnes rhithwir a hybrid y Senedd. Roedd y Cyfarfod Llawn wedi'i ddarparu’n rhithwir yn ystod y cyfnod atal byr ond wedi dychwelyd i fformat hybrid pan godwyd cyfyngiadau cenedlaethol ar 9 Tachwedd.

3.2         Profwyd yr 'ap' pleidleisio ar-lein yn drylwyr mewn dadl ddiweddar ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gyda phleidleisiau wedi'u cynnal ar dros gant o welliannau.

3.3         Roedd cynlluniau i brofi'r model hybrid ar gyfer Pwyllgorau'r Senedd wedi'u hatal oherwydd y cyfnod atal byr ond byddent bellach yn digwydd ym mis Rhagfyr. Roedd yr Aelodau a'r Comisiwn yn awyddus i drefniadau hybrid o'r fath barhau ar gyfer busnes y Senedd yn y dyfodol gan y byddai'n sicrhau buddion fel ymgysylltiad ehangach a llai o deithio.

3.4         Yn ddiweddar, roedd Siwan Davies a Sian Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau, wedi darparu tystiolaeth i un o bwyllgorau Senedd yr Alban ar ein trefniadau gweithdrefnol ac ymarferol yn ystod y pandemig. Roedd y sesiwn, a gafodd dderbyniad da, yn myfyrio’n gadarnhaol ar y ffyrdd hyblyg yr oedd y Comisiwn yn cefnogi busnes ffurfiol y Senedd a'r trefniadau technegol sydd ar waith i hwyluso ymgysylltiad.

3.5         Yna rhannodd Dave ganlyniadau'r arolwg pwls staff diweddaraf a ddangosodd lefelau uchel o foddhad â'r trefniadau gweithio cyfredol ac a amlygodd rai heriau o ran diffyg rhyngweithio cymdeithasol, yr oedd y Tîm Arweinyddiaeth yn eu hystyried.

3.6         O ran y lle gwaith ffisegol, amlinellodd Dave sut yr oedd yn gweithio gyda'r tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau i ystyried opsiynau i ddarparu ar gyfer presenoldeb ffisegol a rhithwir preswylwyr yr adeilad. Roedd hynny'n cynnwys ystyriaethau megis sicrhau bod digon o leoedd cyfarfod, wedi'u cefnogi gan offer a thechnoleg i hwyluso ymgysylltiad â'r rhai sy'n gweithio o bell ac mewn ffyrdd a oedd y lleiaf aflonyddgar. Roeddent hefyd yn ystyried modelau arfer gorau o fannau eraill ac atebion a fyddai'n gweithio orau i'r sefydliad.

3.7         Tynnodd Suzy Davies sylw at yr adborth cadarnhaol gan Aelodau’r Senedd, yn enwedig y ddarpariaeth TG a’i gwytnwch yn ystod y pandemig a chynigiodd ei llongyfarchiadau i’r Comisiwn am y trosglwyddiad di-dor i drafodion hybrid a rhithwir.

3.8         Diolchodd aelodau'r pwyllgor Dave am y diweddariad hwn a chroesawwyd y ffyrdd yr oedd y Comisiwn yn ystyried opsiynau, gan ychwanegu bod astudiaethau wedi dangos nad oedd system o weithio wrth sawl gweithfan bob amser yn gweithio'n dda. Gwnaethant hefyd annog swyddogion i gasglu ffigurau ar gyfran y staff sy'n debygol o weithio gartref yn y dyfodol, gan y byddai hyn yn hanfodol wrth bennu'r lle sydd ar gael.

3.9         Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor am y brechlyn Coronafeirws ar gyfer gweithwyr allweddol dynodedig y Senedd, dywedodd Dave y byddent yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd Gareth Watts fod rolau seneddau wedi’u trafod mewn cyfarfod rhyngseneddol diweddar, gan nodi y byddai Tŷr Cyffredin yn helpu i gydgysylltu unrhyw drafodaethau yn y dyfodol rhwng deddfwrfeydd y DU mewn perthynas ag unrhyw rôl y gallent ei chwarae mewn perthynas â’r brechlyn.