Agenda item

Cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion sy'n codi

Cofnodion:

ARAC (04-20) Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin 2020    

ARAC (04-20) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd

 

2.1        Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin.

2.2        Wrth ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor, dywedodd Arwyn Jones na fu fawr o sylw yn y wasg ynglŷn â chyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Ychwanegodd Manon Antoniazzi fod y cyfarfod llawn hybrid wedi cael llawer o sylw ar ITV Cymru a oedd yn gadarnhaol dros ben.

2.3        Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies i'r cyfarfod a fyddai'n diweddaru'r Pwyllgor ar gam gweithredu 6.4 yn ymwneud â diwygio'r Senedd, yn benodol ynghylch y trefniadau cyllido ar gyfer y Comisiwn Etholiadol yn y dyfodol. Esboniodd Siwan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud am ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth bellach yr oedd ei hangen er mwyn gwneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Senedd ac er mwyn iddo gael ei ariannu'n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru; fodd bynnag, ni fyddai hyn yn cael ei roi ar waith mewn pryd ar gyfer etholiadau 2021. Ychwanegodd y cytunwyd ar gytundeb dros dro lle byddai Llywodraeth Cymru’n gwneud taliadau i’r Comisiwn Etholiadol.  

2.4        Disgrifiodd Siwan y broses ar gyfer cyflawni hyn a oedd yn cynnwys gwneud newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd (i'w gwneud yr wythnos ganlynol) i sefydlu Pwyllgor y Llywydd (i'w benodi yn nhymor yr hydref) a nodi prosesau cyllid a rheolaeth ariannol newydd. Ychwanegodd y byddai angen i gytundebau rhyngsefydliadol gael eu nodi erbyn mis Medi o ran sut y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu ac ar gyfer ei atebolrwydd i’r Senedd (trwy Bwyllgor y Llywydd), Tŷ'r Cyffredin (trwy Bwyllgor y Llefarydd) a Senedd yr Alban.

2.5        Atgoffodd Nia Morgan y Pwyllgor am wrthwynebiad cryf y Comisiwn i'r cynigion cychwynnol ar gyfer ariannu’r Comisiwn Etholiadol drwy Gomisiwn y Senedd yn ystod y cyfnod interim hwn. Byddai’r cytundeb newydd hwn yn dileu’r goblygiadau o ran y trefniadau ar gyfer cyllideb Comisiwn y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor fod hwn yn ganlyniad da, a nododd ymdrechion y Comisiwn i barhau â hyn o fewn amserlenni tyn trwy gynnal deialog parhaus a gofynnodd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd maes o law. 

2.6        Fel mater sy’n codi, gofynnodd y Cadeirydd am gynnal trafodaeth ar sut y gallai'r Pwyllgor chwarae rhan adeiladol wrth reoli risg gorfforaethol y Comisiwn ar Newid Cyfansoddiadol yn barhaus. Dywedodd ei fod wedi cael adroddiad wedi'i ddiweddaru, er gwybodaeth iddo y tu allan i'r pwyllgor yr oedd wedi ei anfon ymlaen at Ann ac Aled er gwybodaeth. Rhoddodd Siwan sicrwydd i'r Pwyllgor ynghylch y modd y mae’r Comisiwn yn rheoli’r risg sy’n gysylltiedig â Newid Cyfansoddiadol, gan gynnwys trwy gynllunio senarios ac ymgysylltu â Chomisiwn y Senedd a'r Pwyllgor Busnes, yn ogystal â thrwy sianeli gwleidyddol, gan gynnwys grŵp rhyng-seneddol.

2.7        Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann ynghylch effaith bosibl swm y ddeddfwriaeth funud olaf yn ymwneud â Brexit a'i heffaith ar graffu ar raglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth Cymru, rhoddodd Siwan sicrwydd pellach y byddai gwaith cynllunio senarios a thrafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio rhagweld hyn gymaint â phosibl i ganiatáu i'r Senedd gynnal gwaith craffu deddfwriaethol. Tynnodd Suzy Davies sylw at y potensial ar gyfer problemau ynghylch y berthynas rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Llywodraeth y DU, o ran cymhwysedd deddfwriaethol. 

2.8        Croesawodd y Pwyllgor safbwynt Suzy ar y materion hyn a'r diweddariad buddiol gan Siwan. Gan y bydd materion cyfansoddiadol wedi symud ymlaen yn sylweddol cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Tachwedd, gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad yn gynnar yn nhymor yr hydref gan awgrymu y gellid cyfuno hyn â diweddariad ar ffyrdd newydd o weithio i gefnogi busnes Pwyllgorau’r Senedd a’r Cyfarfod Llawn yn yr amgylchedd Covid-19.

 

Cam i’w gymryd

(2.8) Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am reoli risgiau’n barhaus ynghylch Newid Cyfansoddiadol yn gynnar yn nhymor yr hydref.