Agenda item

Barn Archwilio Allanol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20

Cofnodion:

ARAC (03-20) Papur 4 Adroddiad ISA 260 

4.1         Cyflwynodd Gareth Lucey adroddiad ISA 260 i’r Pwyllgor, gan gadarnhau eu bwriad i gyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni. Ychwanegodd fod hwn wedi bod yn archwiliad clir iawn heb unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi na chywiriadau sylweddol i'w dwyn i sylw'r Pwyllgor. Dim ond mân newidiadau cyflwyniadol yr oeddent wedi'u nodi i ddatgeliadau yn yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon, a hynny mewn perthynas â phrisio asedau a oedd wedi dod i feddiant y sefydliad. 

4.2         Esboniodd Gareth fod y tabl o effeithiau Covid 19 a gynhwyswyd yn yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon (ISA 260) yn eitem safonol ar gyfer pob archwiliad. Ni chafwyd unrhyw effaith sylweddol ar y cyfrifon, er bod yr adroddiad yn cyfeirio at sylw gan y prisiwr eiddo yn nodi ansicrwydd materol ynghylch gwerthoedd asedau adeiladau'r Senedd. Er mwyn sicrhau tryloywder (a chysondeb â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus sy'n wynebu problemau tebyg), mae'r Comisiwn wedi cynnwys sylwadau'r prisiwr o dan Nodyn 4 yn y datganiadau ariannol. Esboniodd Gareth fod Archwilio Cymru hefyd wedi cynnwys paragraff pwysleisio mater yn rhan o dystysgrif archwilio'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol i dynnu sylw at hyn. Fodd bynnag, nid yw'r mater hwn yn effeithio ar farn archwilio 2019-20.

4.3         Roedd y dystysgrif archwilio ar gyfer 2019-20 hefyd yn cynnwys ymwadiad newydd ynghylch sicrwydd am 'wybodaeth arall' yn yr Adroddiad Blynyddol. Eglurodd Gareth mai’r wybodaeth arall hon yw’r wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol ac eithrio'r datganiadau ariannol. Mae'r ymwadiad yn nodi nad yw'r farn archwilio ar y datganiadau ariannol yn berthnasol i’r wybodaeth arall. Fodd bynnag, cadarnhaodd Gareth fod tîm Archwilio Cymru wedi adolygu'r Adroddiad Taliadau fel rhan o'i waith a'i fod yn fodlon bod y wybodaeth arall yn yr Adroddiad Blynyddol yn gyson â'r datganiadau ariannol.

4.4         Diolchodd tîm Archwilio Cymru i dîm Cyllid Comisiwn y Senedd am eu gwaith caled yn sicrhau archwiliad mor glir a phroses archwilio ddidrafferth a syml. Nodwyd hefyd, oherwydd eu bod yn gallu addasu rhai prosesau, na fu unrhyw effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i bandemig Covid-19.

4.5         Roedd Nia Morgan hefyd am ddiolch i'w thîm am yr ymdrech anhygoel a'r oriau ychwanegol yr oeddent wedi'u gweithio i sicrhau bod y gwaith archwilio wedi'i gwblhau yn unol â’r amserlenni gwreiddiol. Diolchodd hefyd i dîm Archwilio Cymru, gan gydnabod pa mor galed yr oedd y ddau dîm wedi gweithio i gynnal archwiliad mor drylwyr. 

4.6         Roedd effeithlonrwydd y gwaith archwilio wedi creu cryn argraff ar aelodau’r Pwyllgor, yn enwedig ac ystyried sefyllfa Covid-19. Gofynnwyd sut y byddai gwersi a ddysgwyd o'r profiad hwn, yn enwedig o ran yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw drwy weithio o bell, yn cael eu cofnodi a'u hymgorffori ar gyfer cynnal archwiliadau yn y dyfodol.

4.7         Esboniodd Ann-Marie Harkin y byddai Archwilio Cymru yn cysylltu â chyrff archwilio eraill fel rhan o'u mecanweithiau dysgu mewnol, ac y byddai hyn yn cynnwys ystyried sut y gellid rhannu arferion gorau yn ehangach ar draws archwilwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Byddai hyn hefyd yn cynnwys trafodaethau â Nia a'i thîm am yr union ddulliau a ddefnyddir i archwilio cyfrifon y Senedd yn y dyfodol. Cytunodd y Cadeirydd, aelodau'r Pwyllgor ac Ann-Marie a Gareth fod y gallu i gyflawni'r gwaith archwilio o bell yn dangos yr hyblygrwydd a roddir gan y systemau cadarn sydd ar waith yng Nghomisiwn y Senedd.

4.8         Mewn perthynas â'r cais am newidiadau munud olaf i’r modd y cyflwynwyd datgeliadau yn y cyfrifon ynghylch prisio asedau a newidiadau i'r Dystysgrif Archwilio, nododd Nia y byddai'n ddefnyddiol, yn y dyfodol, cael gwybod amdanynt yn gynharach yn y broses.