Agenda item

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Llywodraethu'r GIG

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

2.2 Cytunodd y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth isod, yn ysgrifenedig, ar ôl y cyfarfod:

  • y wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau Llywodraeth Cymru yn dilyn ei gwaith archwilio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i archwilio Bondiau Effaith Gymdeithasol fel model buddsoddi ar sail canlyniadau i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal, a hynny cyn gynted ag y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau;  
  • cadarnhad o ble yn union yn yr Asesiad Effaith Integredig Strategol eleni mae manylion am yr “ystyriaeth glir o effaith penderfyniadau cyllidebol ar hawliau plant” y cyfeirir ato yn nhystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y sesiwn hon; 
  • rhestr o brosiectau sy'n derbyn cyllid o dan y cynnig gofal plant ar gyfer lleoliadau sy’n cynnig darpariaeth Cyfnod Sylfaen a Gofal Plant;   
  • copi o'r llythyr a anfonwyd at Chwarae Cymru yn amlinellu'r cylch gwaith sy'n gysylltiedig â'i gyllid yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a syniad o'r hyn y disgwylir i’r corff ei gyflawni â'r cyllid a ddyrennir iddo yng Nghyllideb Ddrafft 2020-21; 
  • manylion pellach am y £2.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol yn ei Chyllideb Ddrafft 2020-21 ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, a rhagor o fanylion am ei hymateb i bryderon Adoption UK Wales am y modd y bydd eu cais aflwyddiannus am gyllid Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i’r Trydydd Sector ar gyfer 2020-21 yn effeithio ar wasanaethau cymorth.

 

 

 

Dogfennau ategol: