<OpeningPara>Sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i
ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn
cynnwys cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a
diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol 2015 ar waith.</OpeningPara>
<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod
o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei
gadeirio gan Jenny Rathbone AS. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i
aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â
nhw.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Cyfarfu’r Pwyllgor ddiwethaf ar
11 Gorffennaf a bydd yn cyfarfod nesaf ar 12
Medi</news><link>ieListMeetings.aspx?CommitteeId=740</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi
adroddiad ynghylch ei flwyddyn gyntaf o fonitro’r Cynllun Preswylio Sefydlog i
Ddinasyddion yr
UE</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38194</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi
lansio ymgynghoriad ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd
yr ymgynghoriad yn cau ar 23 Medi.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=3798</link>
<news>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad: Gwrandawiad cyn penodi - Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn
Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar 7
Gorffennaf 2022.</news><link>https://senedd.cymru/media/ciblqdb0/cr-ld15233-w.pdf</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi lansio
ymgynghoriad ar egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a
Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 22 Gorffennaf
2022.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39479</link>
<news>Cyflwynwyd y Bil Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i’r Senedd ar 7 Mehefin. Bydd y
Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 i egwyddorion cyffredinol y
Bil.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39479</link>
<news>Cyflwynodd y Pwyllgor ei
adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Iaith Arwyddion Prydain ar
25 Ebrill
2022</news><link>https://senedd.cymru/media/hjzpnllu/cr-ld15094-w.pdf</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi
adroddiad diweddaru ar ei waith craffu blynyddol gyda Chomisiynydd
Cenedlaethau’r
Dyfodol</news><link>https://senedd.cymru/media/js0h1krf/cr-ld15086-w.pdf</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi lansio
ymchwiliad newydd – “Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais
rhywiol”</news><link>mgConsultationDisplay.aspx?ID=458</link>
<news>Fe wnaeth
Llywodraeth Cymru ymateb i adroddiad y Pwyllgor “Gwarchod y dyfodol: y rhwystr
gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio” ar 23 Mawrth 2022. Mae dadl ar yr
adroddiad yn y Cyfarfod Llawn wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mercher 30
Mawrth</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38131</link>
<news>Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar
Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2022-23</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37162</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry> Profiadau menywod yn y system cyfiawnder
troseddol
</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39798</link>
<inquiry>Y Bil Partneriaeth Gymunedol a Chafael
Cyhoeddus (Cymru)</inquiry><link> mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39479</link>
<inquiry>Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig
a thrais rhywiol: menywod mudol</inquiry><link>
mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39137</link>
<inquiry>Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi
Clyd</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38494</link>
<inquiry>Cynllun Setliad yr
UE</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38194</link>
<inquiry>Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil
Iaith Arwyddion
Prydain</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39053</link>