<OpeningPara> </OpeningPara>
Newyddion
<news>Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei
chynnal ar 6 Mai. Er mwyn cydnabod yr angen am degwch i bob ymgeisydd yn ystod
cyfnod yr etholiad, daw holl weithgareddau’r pwyllgorau i ben o 7 Ebrill (ac
eithrio gweithgareddau cyfyngedig iawn mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth frys
neu ddarpariaethau Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021). Disgwylir i
bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn haf 2021 - caiff gwybodaeth ei chyhoeddi
ar y wefan hon.
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad
gwaddol y Bumed Senedd, sy’n edrych nôl ar gwaith yn y Bumed Senedd a sy’n
edrych ymlaen at y Senedd nesaf</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=36962</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyflwyno ei ymateb
ymgynghoriad i bapur gwyn Llywodraeth Cymru “Adeiladau Mwy Diogel yng
Nghymru”</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=19346</link>
<news>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad
y Pwyllgor ar effaith COVID-19 ar y sector
gwirfoddol</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=28320</link>
<news>Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi
ymateb i’n llythyr ar ddiogelwch
tân</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=19346</link>
<news>Mae’r Llywydd wedi ysgrifennu at Gadeiryddion
yr holl Bwyllgorau ynghylch effaith Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) ar
fusnes y
pwyllgorau</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=35328</link>
<news>Mae’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) bellach
wedi bod trwy Gyfnod
4</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=27569&AIID=56241</link>
Gwaith Cyfredol
Trawsgrifiadau
>>>>
>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd ar ôl 1
Tachwedd
2017<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=447</link>
>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd hyd at 31
Hydref 2017<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15159</link>
<<<
Gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor
>>>>
>>>Adroddiadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15125</link>
>>>Ymchwiliadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15146</link>
>>>Deddfwriaeth<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15169</link>
<<<
Dilynwch ni ar Twitter:
@SeneddCymunedau<link>https://twitter.com/SeneddCymunedau</link>
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau ar 28 Mehefin i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i
gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r
meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai;
adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a
hawliau dynol. Ar 13 Tachwedd 2019, newidiwyd cylch gwaith y pwyllgor i gynnwys
y gallu i arfer y swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol
Sefydlog 18A.2 mewn perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.