<OpeningPara>Bob wythnos pan fo’r Senedd yn
eistedd, mae'r Pwyllgor yn cyflawni'r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog
21 (ac eithrio Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11*) i graffu ar is-ddeddfwriaeth. Yn
unol â'i gylch gwaith, bydd hefyd yn trafod unrhyw Filiau a gyflwynir i'r
Senedd ac unrhyw femoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodir gerbron y
Senedd.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei
chynnal ar 6 Mai. Er mwyn cydnabod yr angen am degwch i bob ymgeisydd yn ystod
cyfnod yr etholiad, daw holl weithgareddau’r pwyllgorau i ben o 7 Ebrill (ac
eithrio gweithgareddau cyfyngedig iawn mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth frys
neu ddarpariaethau Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021). Disgwylir i
bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn haf 2021 - caiff gwybodaeth ei chyhoeddi
ar y wefan hon</news><link>https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/pwyllgorau/</link>
<news>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad Gwaddol y
Bumed Senedd ar 31 Mawrth
2021</news><link>https://senedd.cymru/media/gb1fzy1b/cr-ld14319-w.pdf</link>
Gwaith Cyfredol
Trawsgrifiadau
>>>>
>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd ar ôl 1
Tachwedd
2017<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=434</link>
>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd hyd at 31
Hydref 2017<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15034</link>
<<<
Gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor
>>>>
>>>Adroddiadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16071</link>
>>>Ymchwiliadau<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15152</link>
>>>Deddfwriaeth<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16846</link>
<<<
Dilynwch ni ar Twitter: @Senedddcc<link>https://twitter.com/Senedddcc</link>
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 15 Mehefin 2016 i gyflawni
swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21 (ac
eithrio Rheol Sefydlog 21.8 i 21.11*) ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud
â deddfwriaeth, cyfiawnder a’r cyfansoddiad** sydd o fewn cymhwysedd y Senedd
neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu
Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
Newidiwyd enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 29
Ionawr 2020 yn dilyn cynnig y cytunwyd arno yn y Senedd. Gweler hefyd adroddiad
y Pwyllgor Busnes, Diwygio teitl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, mis Ionawr 2020.
Dylid darllen unrhyw gyfeiriad ar dudalennau gwe'r
Senedd, ar Senedd TV neu yn nhrawsgrifiadau cyfarfodydd at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad cyn 29 Ionawr 2020 fel cyfeiriad at y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
^Diwygiwyd cylch gwaith y Pwyllgor yn dilyn
penderfyniadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Medi 2016* a 29 Ionawr 2020**.