Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Cafodd y Pwyllgor hwn o’r Pedwerydd Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed Cynulliad.

 

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2011. Rôl y Pwyllgor Cyllid oedd gweithredu’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19. Roedd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau gan Gomisiwn y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, ac yn benodol cyflwyno adroddiad yn ystod cylch blynyddol y gyllideb. Roedd y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru.

 

Roedd cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid hefyd yn cynnwys pwerau statudol penodol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ymwneud â chyfrifoldebau ar gyfer goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Trawsgrifiadau a gohebiaeth

 

Gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor Cyllid

 

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod: