Pwyllgor y Llywydd - Y Bumed Senedd

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Pwyllgor y Llywydd - Y Bumed Senedd.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor y Llywydd - Y Bumed Senedd

Newyddion

<news>Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei chynnal ar 6 Mai. Er mwyn cydnabod yr angen am degwch i bob ymgeisydd yn ystod cyfnod yr etholiad, daw holl weithgareddau’r pwyllgorau i ben o 7 Ebrill (ac eithrio gweithgareddau cyfyngedig iawn mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth frys neu ddarpariaethau Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021). Disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn haf 2021 - caiff gwybodaeth ei chyhoeddi ar y wefan hon.</news><link>https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/pwyllgorau/</link>

 

Gwaith Cyfredol

 

Trawsgrifiadau

>>>> 

>>>Gweld trawsgrifiadau cyfarfodydd<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=555</link>

<<< 

 

Gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor

Gellir gweld adroddiadau a gynhyrchwyd gan Bwyllgor y Llywydd isod:

>>>> 

>>>Mawrth 2021 – Adroddiad blynyddol 2020-21 ar arfer swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd (PDF, 121kb)<link>https://senedd.cymru/media/zshnbctp/cr-ld14306-w.pdf</link>

>>>Tachwedd 2020 – Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol 2021-22 a chynllun pum mlynedd 2020-21 a 2024-25 (PDF, 919kb)<link>https://senedd.cymru/media/o54igxta/cr-ld13834-w.pdf</link>

<<< 

 

Cylch gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor i graffu ar amcangyfrifon ariannol a chynlluniau a gyflwynwyd gan y Comisiwn Etholiadol wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru.

 

Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant i’r Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.

 

Mae adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau Cymru 2020 yn nodi, yng Nghymru, y bydd gwaith craffu ar y Comisiwn Etholiadol yn cael ei wneud gan un o bwyllgorau’r Senedd. Enw'r Pwyllgor hwn fydd Pwyllgor y Llywydd.

 

Yn ogystal ag amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi ei nodau, ei amcanion a'i gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y cyfnod dilynol o bum mlynedd.

 

Ar ôl cwblhau ei waith craffu ar amcangyfrifon a chynlluniau'r Comisiwn Etholiadol, rhaid i'r Pwyllgor osod yr amcangyfrifon a'r cynlluniau hynny gerbron y Senedd, naill ai fel y'u cafwyd gan y Comisiwn Etholiadol neu gydag addasiadau.