Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd

Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd yn gweithredu mewn capasiti cynghorol, ac nid oes ganddo bwerau gweithredol. Mae ei delerau’n gyson â chanllawiau'r Trysorlys a chânt eu hadolygu gan y Pwyllgor o dro i dro. Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn nodi mai:

Rôl y Pwyllgor yw cynnig cyngor a chefnogaeth i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, ac i’w herio, mewn perthynas â’i chyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu, yn ogystal â rhoi sicrwydd i'r Comisiwn. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn modd cyson a chywir gan sicrhau gwerth am arian o ran defnydd yr adnoddau. Mae'n ofynnol bod y Swyddog Cyfrifyddu hefyd yn sicrhau bod trefniadau llywodraethu corfforaethol cadarn wedi'u sefydlu, ac fod dulliau rheolaeth fewnol effeithiol ar waith er mwyn sicrhau y caiff risgiau eu hadnabod a'u rheoli'n briodol.

Wrth gyflawni ei waith, bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn archwilio ac yn darparu sicrwydd ar:

  • yr adroddiad blynyddol a chyfrifon;
  • y gweithgareddau a gynlluniwyd a chanlyniadau'r archwilio mewnol ac allanol;
  • pa mor ddigonol yw ymateb y rheolwyr i faterion a nodwyd gan yr archwilio mewnol ac allanol;
  • trefniadau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg y Comisiwn, gan gynnwys y Datganiad Llywodraethu; a
  • polisïau gwrth-dwyll, prosesau chwythu'r chwiban a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig.

Dogfennau Ychwanegol