Y Pwyllgor Deisebau

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Y Pwyllgor Deisebau.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Y Pwyllgor Deisebau

<OpeningPara>Sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau gan y Senedd i  ystyried pob deiseb sy'n bodloni ein rheolau o gasglu 250 llofnod. </OpeningPara>

 

<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor bum Aelod sy'n dod o'r gwahanol grwpiau plaid sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Jack Sargeant AS. </OpeningPara>

 

 

Newyddion

<news>Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod nesaf ar ddydd Llun 22 Ebrill 2024.</news><link>https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=744&MId=13871&Ver=4</link>

 

<news>Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei Adroddiad: Gaeaf cynhesach P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru</news><link>https://senedd.cymru/media/cq0adkxa/cr-ld16181-w.pdf</link>

 

 

<news>Ar ddydd Mercher 12 Gorffennaf cynhaliwyd dadl ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 02 Mawrth 2023 ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ‘Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2023</news><link> http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/1dd706c2-b655-42fc-9b44-df2e98a283fc?startPos=14986&autostart=True </link>

 

 

<news>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad y Pwyllgor 'Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’.</news><link>https://senedd.cymru/media/lc2bv220/gen-ld15892-w.pdf</link>

 

 

<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad, ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’.</news><link>https://senedd.cymru/media/ra4amykw/cr-ld15703-w.pdf</link>

 

<news>Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi lansio cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn gyntaf erioed i gydnabod a dathlu cyfraniad ymgyrchwyr yng Nghymru. Mae'r canlyniad nawr yn fyw.</news><link>https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/deisebau/deiseb-y-flwyddyn/</link>

 

<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol 2022.</news><link>https://senedd.cymru/media/zjid1qjw/cr-ld15277-w.pdf</link>

 

 

<news>Mae gwefan Deisebau’r Senedd wedi cael ei diweddaru.

Ar gyfer pob deiseb, gallwch nawr weld ‘map gwres’ sy’n dangos ble mae pobl wedi bod yn llofnodi’r ddeiseb. Gallwch weld mapiau sy’n dangos y llofnodion yn ôl Etholaeth neu Ranbarth. Gobeithio y bydd y nodwedd newydd hon yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n creu deisebau a’r rhai sy’n eu llofnodi.</news>

 

<news>Ddydd Mercher 16 Rhagfyr, cytunodd y Senedd i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â nifer y llofnodion sy'n ofynnol er mwyn i ddeiseb gael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. O Ionawr 1 2022 ymlaen, bydd angen i unrhyw ddeiseb sy’n cael ei chyflwyno gasglu 250 o lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor ei hystyried.</news><link>https://senedd.cymru/media/pe4fydb2/cr-ld14726-w.pdf</link>

 

<news>Yn dilyn etholiad Jack Sargeant AS yn gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 29 Mehefin 2021 yn y Cyfarfod Llawn, etholwyd Buffy Williams AS, Joel James AS a Luke Fletcher MS yn aelodau o'r Pwyllgor Deisebau ar 7 Gorffennaf 2021.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12322&Ver=4</link>

 

<news>Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 gan gynnig yn y Cyfarfod Llawn.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12318&Ver=4</link>

 

Gwaith Cyfredol

<inquiry>P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40256</link>

 

<inquiry>P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40964</link>

 

<inquiry>P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=41309</link>