Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/08/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(13.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

2a

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (14 Gorffennaf 2020)

Dogfennau ategol:

(13.35 - 14.40)

3.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru;

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Ruth Conway - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-Adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru

Nicola Edwards - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru

Chris Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr - Cefnogaeth i Ddysgwyr

Kevin Palmer - Dirprwy Gyfarwyddwr, Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd y Pwyllgor Tracey Burke, Ruth Conway, Nicola Edwards, Chris Jones a Kevin Palmer fel rhan o'i Ymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar wasanaethau addysg.

3.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer o bwyntiau.

 

(14.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.50 - 15.50)

5.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-16-20 Papur 1 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gomisiwn y Senedd – Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19, 4 Mehefin 2020 

PAC(5)-16-20 Papur 2 – Llythyr oddi wrth Gomisiwn y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid – Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19, 7 Gorffennaf 2020 

 

Manon Antoniazzi – Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Nia Morgan – Cyfarwyddwr Cyllid

Lowri Williams – Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dynol a Chynhwysiant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor Manon Antoniazzi, Nia Morgan a Lowri Williams fel rhan o'i ymchwiliad i COVID-19 ar yr effeithiau ar Gomisiwn y Senedd.

 

(15.50 - 16.00)

6.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.00 - 16.30)

7.

Blaenraglen waith – Tymor yr Hydref 2020

PAC(5)-16-20 Papur 3 – Blaenraglen Waith

PAC(5)-16-20 Papur 4 – Adroddiadau statudol ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Dogfen gwmpasu gychwynnol ar gyfer cynnal ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn cytuno ar raglen waith Tymor yr Hydref 2020 ond gofynnwyd iddynt barhau i fod yn hyblyg i alluogi'r Pwyllgor i ymateb i faterion wrth iddynt ddod i'r amlwg.

7.2 Bu'r Aelodau'n ystyried ac yn trafod y papur ar yr ymchwiliad sydd ar ddod ar Adroddiad Statudol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a gofyn am bapur pellach yn gynnar ym mis Medi.