Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor. |
||
(09.30-10.30) |
Ymchwiliad i’r Diwydiant Cerddoriaeth yng Nghymru: Llywodraeth Cymru Dafydd
Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Gerwyn
Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd y Dirprwy Weinidog gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu ystadegau pellach yn ymwneud â
lleoliadau cerddoriaeth sy'n hawlio gostyngiadau mewn cyfraddau busnes pan fydd
y wybodaeth hon ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Hefyd, cytunodd
swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr ymarfer cwmpasu ynghylch ymestyn
prosiect Forté ar draws Cymru. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Gohebiaeth â Chomisiynydd y Gymraeg: Cyllideb ddrafft 2020-21 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a
Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am ei sylwadau ar y llythyr gan Gomisiynydd y
Gymraeg. |
||
Gohebiaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papur. |
||
Gohebiaeth â’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cyllideb ddrafft 2020-21 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch y methiant i recriwtio
cyfarwyddwr masnachol ar gyfer Amgueddfa Cymru. |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig. |
|
(10.30-11.00) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth. |