Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau ac roedd Russell George yn
bresennol yn ei le. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes
fod y Llywodraeth yn tynnu'r datganiad llafar gan Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth ar Fesurau Datblygu Economaidd yn ôl. Dydd
Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd
Mercher ·
Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl
Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 10 Gorffennaf 2019 ·
Cynnig i
ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio)
2019 (30 munud) Dydd
Mercher 17 Gorffennaf 2019 - ·
Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (30
munud) Dydd
Mercher 18 Medi 2019 - ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Llythyr gan Suzy Davies AC Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i drefnu dadl ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau
Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019 ar 10 Gorffennaf. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Amserlen ar gyfer y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar amserlen y Bil a nodwyd y sylwadau yn y llythyr yn ymwneud â
Biliau posibl eraill. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau
ar gyfer adrodd yn ôl ar 11 Gorffennaf. Nodwyd ganddynt fod y llywodraeth yn
cynnig y dylid trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 16 Gorffennaf. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y
gwanwyn a thoriad y Pasg 2020, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer
hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2020. |
|
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y
cyfarfod llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y trefniadau ar
gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad. |