Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

 

1.1        Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC.  Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd Helen Mary Jones AC yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

(09.30-10.30)

2.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Alex Howells, Prif Weithredwr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Julie Rogers, Dirprwy Brif Weithredwr/ Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Sue Evans, Gofal Cymdeithasol Cymru

Sarah McCarty, Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Briff ymchwil

Papur 1 – Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru

 

(10.30)

3.

Papurau i’w nodi

(10.30)

3.1

Llythyr gan y Gymdeithas Gwarchod Meddygol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(10.30)

3.2

Llythyr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(10.30)

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol parthed Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1  Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

 

(10.30-10.45)

5.

Craffu cyffredinol ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am eu gweithlu a’u strategaethau iechyd meddwl.

 

(10.45-11.15)

6.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1  Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft gan dderbyn ei gasgliadau a’i argymhellion, yn amodol ar rai newidiadau. Bydd y Pwyllgor yn trafod y newidiadau hyn yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. 

 

(11.15-11.45)

7.

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1   Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad.