Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30)

2.

Cod Ymddygiad - Adolygiad: Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Ganlyniadau’r Holiadur Urddas a Pharch (Mehefin 2019)

SoC(5)-11-19 Papur 1 - Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Ganlyniadau’r Holiadur Urddas a Pharch (Mehefin 2019)

SoC(5)-11-19 Papur 2 - Datganiad ar Ganlyniadau’r Holiadur Urddas a Pharch (3 Gorffennaf 2019)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Roedd yr Aelodau wedi trafod canlyniadau’r arolwg drafft yn y cyfarfod ar 2 Gorffennaf ond nodwyd bod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi ar 3 Gorffennaf 2019.

 

(09.35 - 10.15)

3.

Ystyried adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Comisiynydd Safonau ei ail Adroddiad Blynyddol, cyn iddo gael ei gyhoeddi, gyda’r Pwyllgor.

3.2 Nododd yr Aelodau yr adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd tymor yr haf.

3.3 Trafododd yr Aelodau’r adroddiad drafft a chytuno arno (03-19).

 

(10.15 - 10.45)

4.

Adrodd Deuol

SoC(5)-11-19 Papur 3 – Y Comisiwn Etholiadol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi paratoi papur i’w ystyried yng nghyfarfod y Bwrdd Cynghori Etholiadol yn ddiweddarach y mis hwn. Nododd yr Aelodau y papur a bod gwaith wedi dechrau gyda dileu gofynion adrodd deuol.