Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:10)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

(09:10)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2019

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 - 5 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:

(09:10-09:40)

3.

Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth 2

Alan Bermingham, Rheolwr Polisi, Llywodraethau, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

 

Papur 1 – Papur cefndir (Saesneg yn unig)

Brîff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Bermingham, Rheolwr Polisi, Llywodraethau, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

 

(09:40-10:20)

4.

Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth 3

Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Brîff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; a John Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

(10:20)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o ran o'r cyfarfod (eitemau 6, 7, 8, 9, 11 a 12)

Cofnodion:

5.1 Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

 

(10:20-10:25)

6.

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): Trafod gwaith craffu ariannol

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y broses graffu ariannol ar gyfer y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

 

(10:25-10:30)

7.

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Papur 2 - Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 – Crynodeb briffio cyfreithiol (Saesneg yn unig)

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y rheoliadau.

 

(10:30-10:45)

8.

Cod Ymarfer sy'n Llywodraethu'r Berthynas rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 3 - Cod Ymarfer sy'n Llywodraethu'r Berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 4 - Llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru - 18 Mehefin 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cod ymarfer sy'n llywodraethu'r berthynas rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

(10:45-11:00)

9.

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgorau ar y cyd: 'Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol'

Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgorau ar y cyd: 'Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol'

Papur 6 - Barn Comisiynydd Plant Cymru am ymateb Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig)

Papur 7 - Barn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ymateb Llywodraeth Cymru

Papur 8 - Barn Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru am ymateb Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig)

Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn agor dadl ar adroddiad y Pwyllgorau ar y cyd, 'Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol', yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2019.

 

(11:10-11:55)

10.

Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth 5

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papur 9 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - 27 Mehefin 2019

Brîff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar y cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

(11:55-12:15)

11.

Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.15-12.20)

12.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Amserlen y gyllideb

Papur 10 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Amserlen ar gyfer Cyllideb - 5 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Trafododd y Pwyllgor amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.