Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC; roedd Jayne Bryant AC yn dirprwyo ar ei ran. 

 

(09.30 - 10.30)

2.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6

Cynrychiolwyr yr Heddlu

Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan.

Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr yr Heddlu.

2.2 Cytunodd cynrychiolwyr yr Heddlu i ddarparu nodyn ynghylch y sefyllfa bresennol, fel y maent yn ei deall mewn perthynas â datblygiad a gwaith canolfannau diogelu amlasiantaeth.

 

(10.45 - 11.45)

3.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7

Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru

 

Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan BASW Cymru.

3.2 Cytunodd y Cyfarwyddwr i ddarparu nodyn am y materion a ganlyn:

·         Tystiolaeth o ran unrhyw ddwysâd o ran gweithgarwch sy’n is na’r trothwy presennol ar gyfer defnyddio’r amddiffyniad cosb resymol i weithgarwch yr ystyrir ei fod yn ymosodiad

·         Ymwneud BASW Cymru hyd yn hyn â’r gwaith o ddatblygu’r Bil

 

(11.45)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.2 Diolchodd y Cadeirydd i Senedd Ieuenctid Cymru am ei gyfraniad at waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

 

4.1

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - Llythyr gan Senedd Ieuenctid Cymru

Dogfennau ategol:

4.2

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol: y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am adroddiad Cadernid Meddwl y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

4.3

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Raglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cydnabyddiaeth o ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Pwysau Iach: Cymru Iach

Dogfennau ategol:

(11:45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.45 - 12.00)

6.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau.