Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC. |
|
(09.30-11.00) |
Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol – Llywodraeth
Cymru Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg - Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Am
10.00am, nododd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y ddau unigolyn a gollodd
eu bywydau yn y digwyddiad rheilffyrdd trasig ym Margam yr wythnos diwethaf. 2.1
Atebodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2
Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion
ynghylch pa wyliau a gafodd arian eleni. 2.3
Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol hefyd i ddarparu
rhagor o fanylion am y rhaglen ddigidol e-sgol. 2.4
Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu gwybodaeth
am gynllun Camau a chyflwyno cynlluniau meithrin. 2.5
Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol i roi gwybod i ni am ddatblygiad y strategaeth Iaith Gymraeg
newydd. 2.6
Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau
Rhyngwladol i ddarparu manylion am y cwynion a gafwyd ynghylch Safonau’r
Gymraeg. |
|
(11.15-12.15) |
Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gyda’r Farwnes Kay Andrews OBE Barwnes Kay Andrews OBE Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r
Farwnes Kay Andrews OBE yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth gydag Equity ynghylch yr angen i gynnal clyweliadau lleol ar gyfer cynyrchiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd
yr Aelodau y papur. |
||
Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd
yr Aelodau y papur. |
||
Llythyr at y Gweinidog Addysg ynghylch natur drosglwyddadwy sgiliau addysgu Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3 Nododd
yr Aelodau y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12.15-12.25) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ei sesiwn dystiolaeth ar
26 Mehefin a’r sesiwn dystiolaeth yng nghyfarfod heddiw. |
|
(12.25-12.30) |
Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru: trafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cofnodion: 7.1
Cynhaliodd yr Aelodau drafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor. |