Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(9.30-11.00)

2.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Len Richards, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Abigail Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Strategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Robert Chadwick, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Steve Curry, Prif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

2.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu:

·         manylion am sawl gwaith y bu'n rhaid i wasanaethau y tu allan i oriau weithredu ar raddfa lai

·         yr amseroedd aros presennol ar gyfer y targed o 48 awr ar gyfer mynediad CAMHS brys a'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael yr asesiad cyntaf hwnnw - am faint maent yn aros am unrhyw ymyriadau therapiwtig

·         pa wasanaethau fydd y gwasanaeth hunaniaeth rywedd yng Nghaerdydd a'r Fro yn eu darparu

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd.

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar gyfer eitem 1 ar 11 Gorffennaf 2019

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 11 Gorffennaf 2019 ar gyfer eitem 1.

 

(11.00-11.10)

4.

Gwaith craffu Cyffredinol ar Fyrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.