Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
|
|
(13.30 - 15.00) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio PAC(5)-15-19
Papur 1 - Llywodraeth Cymru Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif
Weithredwr GIG Cymru Dr Chris
Jones - Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd
yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a chan Dr Chris Jones, y
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau
dilynol cleifion allanol ar draws Cymru. 2.2
Cytunodd Dr Andrew Goodall i: ·
roi restr
o'r gwelliannau y gofynnir i bob bwrdd iechyd eu gwneud ·
rhannu'r
adborth gan Fwrdd Gweithredu Offthalmoleg ar ganlyniadau'r mesurau newydd ar
gyfer gofal llygaid ·
rannu
enghreifftiau o'r darnau o waith y mae clinigwyr yn arwain arnynt fel rhan o'r
gwelliannau sy'n cael eu hysgogi gan y rhaglen gofal wedi'i gynllunio
genedlaethol a'r byrddau arbenigol cysylltiedig. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 4 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00-15.15) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1 Trafododd
yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: 5.1 Yn
dilyn penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â bwrw ymlaen â phrosiect ffordd
liniaru'r M4, fel y'i cyhoeddwyd ar 4 Mehefin 2019, ac yn sgil cyhoeddi
manylion am gostau'r prosiect, sydd bellach yn £114 miliwn, cytunodd yr Aelodau
fod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl yn ymchwilio i'r gwariant hwn a
chytunwyd ar wneud darn byr o waith ar y mater. |