Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau
o fuddiant. |
||
(09:30-10:30) |
Ymchwiliad i Lobïo: Crynodeb o'r dystiolaeth Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan
dystion yn ystod y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad i
lobïo. 2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth gan
swyddogion am amrywiaeth o faterion cysylltiedig, cyn dychwelyd at y pwnc ar
gyfer ei drafod yn y dyfodol. |
|
(10:30-10:45) |
Ymateb gan y Prif Weinidog ynghylch Fferm Gilestone Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Prif
Weinidog, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10:45-10:50) |
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). |
|
(10:50-10:55) |
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). |
|
(10:55-11:00) |
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at yr adroddiad hwn
mewn cyfarfod yn y dyfodol, ar ôl i ragor o’r wybodaeth sy’n ofynnol ddod i
law. |