Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/06/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS a Joyce Watson AS.

 

(09.30-10.30)

2.

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru

Colin Dennis - yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

 

Briff ymchwil
Papur 1 – Holiadur gwrandawiad cyn penodi

Papur 2 – Ffurflen gais

Papur 3 - CV

Papur 4 – Briff Llywodraeth Cymru

Papur 5 – Pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Colin Dennis, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

(10.30)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr gan y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol at y Cadeirydd ynghylch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflogau is

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr gan y Cadeirydd at yr Athro Kirby a’r Athro Thapar gyda chwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.4

Ymateb gan yr Athro Kirby ynghylch cwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.5

Ymateb gan yr Athro Thapar ynghylch cwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.6

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Gweinidogion Iechyd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.7

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Cadeirydd ynghylch lansio ymgynghoriad ar yr Amgylchedd Bwyd Iach a dod â gwerthiant diodydd egni i blant i ben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog.

 

3.8

Llythyr gan Russell George AS, Cadeirydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol at Weinidog yr Economi gyda chwestiynau dilynol o'r cyfarfod ar 27 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.9

Ymateb gan Weinidog yr Economi at Russell George AS, Cadeirydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol ynghylch cwestiynau dilynol o'r cyfarfod ar 27 Ebrill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.9 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

3.10

Llythyr gan y Cadeirydd at Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chwestiynau dilynol ar ôl sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 19 Mai 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.11

Llythyr gan y Cadeirydd at Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chwestiynau dilynol ar ôl sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 19 Mai 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30-10.40)

5.

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: trafod y dystiolaeth

Papur 6 – adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf 2022.

 

(10.40-10.45)

6.

Papur Cwmpasu - Gofal Iechyd Digidol Cymru

Papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull a awgrymwyd ar gyfer casglu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a’r cylch gorchwyl.