Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Jane Dodds ei hymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Prif Weinidog yn ateb Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn rhithwir, gan ei fod yn teithio ar fusnes swyddogol.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes mai dim ond 9 cwestiwn a gyflwynwyd i'r Gweinidog Newid Hinsawdd i’w hateb yr wythnos hon.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan aelodau’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i newid trefn y dadleuon ddydd Mercher fel y gall Aelodau gyfrannu at ddadl Plaid Cymru ar Iechyd Menywod, cyn teithio i ogledd Cymru ar gyfer busnes pwyllgor. Byddai’r Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y drafodaeth ynghylch egwyddorion absenoldeb Aelodau o’r Cyfarfod Llawn er mwyn gallu bod yn bresennol ym musnes arall y Senedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Trefnydd ei bod wedi codi mater yn ymwneud â Gweinidogion yn bod yn bresennol yn y Siambr ar amser ar gyfer eu heitemau busnes yn y Cabinet.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 24 Mai 2022

 

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 8 Mehefin 2022 -

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (120 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf (60 mun)

 

Dydd Mercher 15 Mehefin 2022 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf (60 mun)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r pwyntiau a godwyd ynghylch y cyfleoedd ar gyfer Biliau Aelodau yn adroddiad diweddar y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Iaith Arwyddion Prydain. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod papur yn ymwneud â’r potensial ar gyfer adolygu proses ddethol Biliau Aelod.