Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

  

1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Datganodd Sioned Williams fuddiant yn eitem 4 gan ei bod yn aelod o undeb credyd.

 

 

(09.00 - 10.00)

2.

Dyled a'r pandemig – sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Llewyrchus

Paul Neave, Pennaeth Polisi Lles Cymdeithasol, Cyngor a'r Adran Gwaith a Phensiynau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol 

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol:

 

  • Darparu ystadegau’n ymwneud â nifer yr achosion lle'r oedd dibyniaeth yn ffactor sylfaenol mewn dyled.
  • Darparu rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd prosiectau cyngor ynni a’r cymorth a roddir iddynt.
  • Darparu gwybodaeth am strategaeth sy'n dwyn y rhesymau dros ddyledion a thlodi ynghyd, yn enwedig mewn perthynas â'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, toriadau mewn credyd cynhwysol a thlodi tanwydd.
  • Darparu rhagor o wybodaeth am rôl yr uned data cydraddoldeb. 
  • Darparu rhagor o wybodaeth ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r rhai mewn gwaith sy'n cael eu gwthio i ddyled, ond nad ydynt yn gymwys i gael cymorth gan y llywodraeth.
  • Anfon gwybodaeth am farn Llywodraeth Cymru am goelcerthi dyled.
  • Cadarnhau a ddylid ymestyn y cyfnod o rybudd, sef chwe mis ar hyn o bryd, tan ddaw Deddf Rhentu Cartrefi 2016 i rym a pha asesiad sydd wedi’i wneud o’r hyn a all ddigwydd os oes bwlch cyn y daw’r Ddeddf i rym.
  • Darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i gynorthwyo dioddefwyr cam-drin domestig sydd â phroblem dyled. 

 

 

(10.00)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynghylch canfyddiadau o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol – 5 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

3.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymateb i Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020 – 8 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

3.3

Gohebiaeth gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i ddyled a phandemig - 13 Hydref 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.00 - 10.15)

5.

Ystyried tystiolaeth – sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2. 

 

(10.15 - 10.20)

6.

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymddiheurodd y Cadeirydd a chadeirodd Sarah Murphy AS weddill y cyfarfod.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn, ac unrhyw adroddiadau tebyg yn y dyfodol, i ddangos sut mae’r Pwyllgor yn monitro’r mater. 

 

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i rannu’r adroddiad a gyhoeddwyd â’r Awdurdod Monitro Annibynnol.

 

6.4 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru, yn enwedig o ran sut y bydd, yn y dyfodol, yn cynorthwyo’r rhai sy’n gwneud cais hwyr a dinasyddion sydd â statws preswylydd.