Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, a’r prif ffocws fyddai ystyried eitemau'n ymwneud ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Ni chafwyd ymddiheuriadau. Roedd Suzy Davies yn bresennol yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd gan nad oedd Comisiynwyr newydd y Chweched Senedd wedi'u penodi eto.  

 

2.

Cofnodion cyfarfod 23 Ebrill, camau gweithredu a materion yn codi

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 1 - Cofnodion Drafft 24 Ebrill 2021

ARAC (03-21) Papur 2 - Crynodeb o'r camau gweithredu

2.1         Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 24 Ebrill. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr adolygiad archwilio mewnol o reoli asedau TGCh, cadarnhaodd Gareth Watts nad oedd y gwaith wedi'i gwblhau eto ac y byddai'r adroddiad yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r pwyllgor. Eglurodd hefyd y byddai'n gweithio gyda'r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau ar gwmpas y rhannu o’r adolygiad a oedd yn weddill ac y byddai'n ystyried awgrym gan Suzy i gynnwys trafodaethau gydag Aelodau sy'n ymadael.  

2.2         Nododd y Cadeirydd fod y camau gweithredu yn y tabl crynodeb wedi’u cwblhau a dywedodd fod myfyrdodau Suzy ar ei haelodaeth o'r Pwyllgor wedi'u trafod gyda Manon.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf o ran Llywodraethu a Sicrwydd

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Eitem lafar

3.1         Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar o ran cynnydd yn erbyn gwaith archwilio a oedd yn weddill. Roedd gwaith maes ar gyfer archwilio treuliau'r Aelodau wedi'i gwblhau a'i ddefnyddio gan Archwilio Cymru fel rhan o'i arolwg o gyfrifon y Comisiwn. Byddai'n dosbarthu adroddiad i'r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gwblhau. Byddai hefyd yn gweithio ar adolygiad ehangach o reoli asedau yn ogystal ag archwiliad i roi sicrwydd sy'n ofynnol gan y Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â Chronfa Gyfunol Cymru. Roedd hefyd wedi cytuno â'r Cadeirydd y byddai'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion archwilio i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.

3.2         Gwahoddodd y Cadeirydd Gareth Watts i amlinellu ei sicrwydd mewn cysylltiad â'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.  Cadarnhaodd y lefel gymedrol o sicrwydd ar lywodraethu, rheoli risg ac archwilio mewnol a ddarparwyd yn ei Adroddiad Blynyddol a'i Farn ym mis Ebrill. Cadarnhaodd ei fod yn fodlon o safbwynt archwilio mewnol y gellid llofnodi'r cyfrifon.  

 

4.

Trafod y farn Archwilio Allanol (Adroddiad ISA 260) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21

ARAC (03-21) Papur 3 – Adroddiad ISA260

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 3 – Adroddiad ISA260 

4.1         Croesawodd y Cadeirydd Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey i'r cyfarfod. 

4.2         Soniodd Archwilio Cymru am y gefnogaeth wych a gafwyd gan Nia Morgan a'r tîm Cyllid a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu holl ymdrechion yn yr ail flwyddyn o gwblhau'r archwiliad o bell. Nododd Ann-Marie fod cwblhau'r cyfrifon mor gynnar yn gyflawniad gwych gydag ychydig iawn o faterion yn codi. Ymddiheurodd Ann-Marie am y dryswch ynghylch pwy fyddai'n llofnodi'r cyfrifon a chadarnhaodd y byddai hi'n eu llofnodi ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru oherwydd ei gyflogaeth flaenorol yn y Comisiwn. 

4.3         Tynnodd sylw at un camddatganiad heb ei gywiro o £273,000 ar gyfer yr hyn yr oedd Archwilydd Cymru yn ei ystyried yn gam-ddosbarthu gwariant cyfalaf. Cydnabu Ann-Marie fod hwn yn faes aneglur o ran cyfrifyddu ond dywedodd tîm technegol Archwilydd Cymru ei fod yn cael ei gofnodi fel cyfalaf yn hytrach na gwariant refeniw. Dywedodd fod hyn ymhell islaw trothwy materoldeb ac nad oedd yn cael unrhyw effaith ar y farn archwilio.

4.4         Roedd Archwilydd Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon.     

4.5         Croesawodd Nia y cyfle i godi ei phryderon gyda'r Pwyllgor ynglŷn â'r hyn yr oedd hi’n gredu oedd y dull anghyson a gymerwyd gan Archwilydd Cymru ar y math hwn o wariant. Tynnodd sylw at y ffaith bod gwariant mwy sylweddol ar welliannau i adeiladu wedi'i nodi'n gywir yn y cyfrifon fel gwariant cyfalaf mewn blynyddoedd blaenorol. Roedd wedi trafod y mater yn faith gyda'i thîm ac Archwilydd Cymru ac roedd o'r farn bod hyn yn anghytundeb yn hytrach na chamgymeriad fel yr awgrymwyd yn adroddiad ISA260.

4.6         Roedd Nia hefyd am gofnodi ei diolch am ymdrech aruthrol aelodau ei thîm i sicrhau canlyniad mor llwyddiannus ac amserol.

4.7         Diolchodd y Cadeirydd i Nia ac Archwilio Cymru am y ffordd gwrtais a diplomatig yr oeddent wedi mynegi eu gwahaniaeth barn a chydnabod y rhwystredigaeth ynghylch anghysondeb a chanfod y mater yn hwyr, yn enwedig o ystyried ei werth isel. Anogodd y ddwy ochr i beidio â gadael i'r mater hwn gael effaith andwyol ar eu perthynas dda ac i gysylltu'n agos ynghylch y ffordd y caiff buddsoddiad yn yr ystâd ei drin yn y cyfrifon yn y dyfodol. Gofynnodd y Cadeirydd am fanylion y cyngor a ddarparwyd gan dîm technegol Archwilio Cymru i lywio'r driniaeth o'r math hwn o wariant yn y dyfodol. Er ei fod yn nodi nad oedd hyn yn arfer safonol, cytunodd Archwilio Cymru i rannu'r cyngor technegol gyda'r Comisiwn. Croesawodd y Cadeirydd y farn archwilio ddiamod a chwblhau'r archwiliad yn gynnar, a oedd yn gyflawniad rhagorol. Byddai'n croesawu adborth o'r sesiynau gwersi a ddysgwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor yn yr hydref gan gynnwys manylion unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.  

4.8         Roedd y Cadeirydd yn falch o glywed y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llofnodi'r cyfrifon y flwyddyn nesaf ac y byddai'n trefnu i gyfarfod ag ef yn breifat dros yr haf. Sicrhaodd Ann-Marie y Pwyllgor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Trafod Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2020-21 y Comisiwn (i argymell llofnodi'r cyfrifon)

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 4 – Papur eglurhaol – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

ARAC (03-21 Papur 4 - Atodiad A – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21         

5.1         Gwahoddodd y Cadeirydd y swyddogion i gyflwyno'r eitem hon a thynnu sylw at unrhyw faes i'w drafod ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Nododd Arwyn Jones ei ddiolch i Victoria Paris am gydgysylltu’r gwaith o’i gynhyrchu i amserlen dynn ac am y cyfraniadau gan gydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad. Nododd hefyd ei ddiolch i Suzy Davies a'r Comisiynwyr presennol eraill am eu cyfraniad a'u cymeradwyaeth o'r adroddiad.

5.2         Tynnodd Arwyn sylw at y ffaith bod y ffocws yn yr adroddiad eleni ar droi'r gwahanol ffyrdd o weithio o ganlyniad i'r pandemig yn fusnes fel arfer. Roedd hyn yn cynnwys manylion cynllunio ar gyfer y Chweched Senedd gyda gweithlu a oedd mor gynhyrchiol a hyblyg â phosibl o ran y gwasanaethau a ddarperir i'r Aelodau. Gwahoddodd sylwadau gan aelodau'r Pwyllgor.

5.3         Diolchodd y Pwyllgor i'r staff am eu gwaith ar yr adroddiad manwl a thrylwyr iawn. Cafwyd trafodaeth am hyd a darllenadwyedd yr adroddiad a chydnabyddiaeth gan aelodau'r Pwyllgor bod ei gynnwys yn seiliedig ar ofynion adrodd statudol ac arfer da. Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch cynlluniau ar gyfer fersiynau digidol yn y dyfodol i wella ei ddarllenadwyedd ac i hwyluso cyrhaeddiad i gynulleidfa ehangach. 

5.4         Cytunodd Manon ei bod yn ddogfen fanwl, ac atgoffodd y Pwyllgor o'r adborth cadarnhaol a gafwyd gan Bwyllgorau Cyllid a Chyfrifon Cyhoeddus y Senedd ar eu gwaith craffu ar adroddiadau blaenorol. 

5.5         Croesawodd Arwyn yr adborth adeiladol ar yr adroddiad a nododd y byddai'r gwaith paratoi yn dechrau yn gynharach y flwyddyn nesaf i ddarparu ar gyfer cynlluniau ar gyfer cyflwyniad digidol a rhyngweithiol.

5.6         Mewn perthynas â'r cyfrifon, tynnodd Nia sylw at y ffaith bod dadansoddiad o gostau sy'n gysylltiedig â’r etholiad wedi'i gynnwys yn y tabl o alldro adnoddau net yn y fersiwn ddiwygiedig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor. Tynnodd sylw hefyd at gynnwys yr adran Adolygiad Ariannol yn naratif yr adroddiad a oedd yn ofyniad yn y llawlyfr adrodd ariannol (FREM) newydd.

5.7         Rhoddodd y Cadeirydd glod am gyfres foddhaol iawn o gyfrifon a chydnabu’r gwaith rheoli agos arnynt. Mynegodd fod cynnwys, ansawdd a chywirdeb yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon wedi gwneud argraff arno, yn enwedig o ystyried ei fod wedi ei gynhyrchu'n gynnar, yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig parhaus a'r tîm bach a’i rhoddodd at ei gilydd.

5.8         Roedd y Pwyllgor hefyd am gofnodi eu boddhad bod y gronfa bensiwn wedi symud oddi wrth fuddsoddi mewn cwmnïau olew a nwy i opsiynau mwy cynaliadwy. Roeddent hefyd yn gwerthfawrogi gweld yr ohebiaeth gyda'r Pwyllgorau Cyllid a Chyfrifon Cyhoeddus ar wariant yn gysylltiedig â Covid.

5.9         Argymhellodd y Pwyllgor i'r Swyddog Cyfrifyddu y dylid llofnodi'r datganiadau ariannol ar gyfer 2020-21. Byddai llofnod electronig yn cael ei ychwanegu cyn gosod a chyhoeddi'r adroddiad.

 

6.

COVID-19 - Diweddariad corfforaethol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

6.1         Rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Roedd cyfyngiadau ar ddefnyddio mannau cyfarfod wedi'u llacio gymaint â phosibl ac roedd grwpiau'r Pleidiau wedi dechrau cwrdd ar y safle. Roedd nifer o wasanaethau'n cael eu hailgychwyn gan gynnwys gwasanaethau arlwyo ac roedd asesiadau risg yn cael eu cynnal ar ailgyflwyno gwasanaethau eraill i Aelodau, eu staff cymorth a staff eraill a oedd yn defnyddio'r ystâd.

6.2         Parhaodd Grŵp Cydnerthedd a Monitro Covid (CRAM) i gwrdd yn wythnosol er mwyn monitro newidiadau i gyfyngiadau a rheoli'r gwaith o weithredu ymateb y Comisiwn o ran agor gwasanaethau. Amlinellodd y gwasanaethau sy'n cael eu hailgyflwyno a nododd fod Cyfarfod Llawn hybrid yn parhau i weithio'n dda.  Amlinellodd hefyd effeithiolrwydd mesurau fel systemau un ffordd a'r cyfundrefnau glanhau a dywedodd y byddai profion llif ochrol ar gael i staff sy'n defnyddio'r ystâd, yn enwedig wrth i ddigwyddiadau a gweithgarwch cyhoeddus ailddechrau.

6.3         Byddai arolwg yn cael ei anfon at yr holl staff i gasglu gwybodaeth am eu trefniadau gweithio dewisol yn y dyfodol pan fyddai cyfyngiadau'n caniatáu dychwelyd i'r ystâd. Byddai hyn yn rhoi gwybodaeth i benaethiaid gwasanaethau er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch darparu ar gyfer dewisiadau a chydbwyso dull hyblyg ag anghenion busnes. O safbwynt llesiant, roedd yn ymddangos bod y staff yn ymdopi'n hynod o dda, er bod arwyddion o bwysau a blinder yn dechrau dod i'r amlwg. 

6.4         Yn seiliedig ar ei phrofiad o aelodaeth Pwyllgor, anogodd Suzy swyddogion i ystyried yn ofalus beth fyddai dewis tystion wrth gymryd rhan mewn cyfarfodydd pe bai pwyllgorau hybrid yn dod yn drefniant parhaol.  Anogodd swyddogion hefyd i gynnal arolwg o staff cymorth yr Aelodau, ac ymgysylltu â hwy yn enwedig wrth ystyried newidiadau fel teleffoni ac offer arall cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.  

6.5         Yna amlinellodd Arwyn gynlluniau ar gyfer yr agoriad Brenhinol swyddogol. Er nad oedd dyddiad wedi'i gytuno eto, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r Palasau, yr Aelodau a'r cyfryngau. Byddai'r digwyddiad arfaethedig yn cynnwys perfformiadau byw a pherfformiadau wedi'u recordio ymlaen llaw, a byddai'r ffilmio'n digwydd dros yr haf yn unol â llacio cyfyngiadau.

6.6         Cytunodd y Pwyllgor fod platfform MS Teams wedi gweithio'n dda iddynt, gan ofyn am gymaint o rybudd â phosibl os oedd cynlluniau i symud i ddull gweithredu ar y safle neu hybrid. 

 

7.

Crynodeb o ymadawiadau

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 6 – Crynodeb o ymadawiadau

7.1         Nodwyd tri achos o ymadael  â gweithdrefnau caffael arferol.

 

8.

Risgiau corfforaethol

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 5 - Risgiau corfforaethol

ARAC (03-21) Papur 5 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol

ARAC (03-21) Papur 5 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd   

8.1         Cyflwynodd Dave yr eitem hon. Amlinellodd y cynnig i ddileu'r risg o amgylch cyfnod pontio Etholiad y Senedd 2021 o Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn a'r bwriad i ailasesu'r risg Coronafeirws gan y Bwrdd Gweithredol.

8.2         Rhoddodd Siwan y wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad parhaus o'r risgiau sy'n gysylltiedig â newid cyfansoddiadol a diwygio'r Senedd. Ychwanegodd y byddai'r risgiau'n canolbwyntio ar ymateb y Comisiwn i benderfyniadau gwleidyddol a fyddai'n dechrau dod i'r amlwg wrth i fusnes y Senedd fynd rhagddo yn dilyn yr etholiad.

8.3         Atgoffodd Dave y Pwyllgor mai adroddiad cryno oedd hwn o statws y risgiau a bod y Cyfarwyddwyr a'r Bwrdd Gweithredol yn adolygu adroddiadau manylach yn rheolaidd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch perchnogaeth, eglurodd Dave hefyd fod pob risg gorfforaethol yn eiddo i Gyfarwyddwr arweiniol gyda mewnbwn gan y Penaethiaid Gwasanaethau perthnasol.

8.4         Mewn perthynas â'r risgiau sy'n gysylltiedig â Safonau Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd, gofynnodd Ann Beynon a oedd yn werth i'r Pwyllgor ymgysylltu â'r Comisiynydd Safonau newydd. Nododd y Cadeirydd y dylai'r Pwyllgor, gan fod y Comisiynydd yn ddeiliad swydd annibynnol, ganolbwyntio ar adolygu'r broses o reoli risgiau mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir gan y Comisiwn. Atgoffodd Siwan y Pwyllgor fod y risg hon wedi canolbwyntio ar sut yr oedd swyddogion y Comisiwn wedi cefnogi'r Senedd i gynnal hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn safonau, gan gynnwys y Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Senedd a phenodi Comisiynydd Safonau newydd. Ychwanegodd y byddai’r ffocws nawr, gan fod y ddau hyn bellach ar waith, yn symud tuag at gefnogi'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ar ôl ei sefydlu, i gynnal adolygiad o'r weithdrefn gwyno.

8.5         Ychwanegodd Manon, mewn ymateb i adborth yn ystod cyfnod sefydlu Aelodau newydd, fod briff yn cael ei baratoi i egluro rolau a chylchoedd gwaith y Comisiynydd Safonau a'r Bwrdd Taliadau. Byddai hyn hefyd yn cynnwys manylion o ran rheolau'r Swyddog Cyfrifyddu.

8.6         Croesawodd Suzy unrhyw eglurder ynghylch dyletswydd y Comisiwn i gefnogi'r Bwrdd Taliadau annibynnol.

8.7         Mewn ymateb i gwestiwn gan Suzy ynghylch y gyllideb a chefnogaeth i'r Comisiynydd Safonau, atgoffodd Siwan y Pwyllgor ei bod yn ofyniad statudol i'r Comisiwn ddarparu adnoddau ar gyfer swydd y Comisiynydd. Esboniodd fod Protocol yn cael ei lunio gyda'r Comisiynydd newydd yn seiliedig ar yr egwyddor o ddull hyblyg parhaus, lle roedd staff y Comisiwn yn mynd ar secondiad i’w swyddfa.

8.8         Mewn perthynas â'r risg o ran Urddas a Pharch staff y Comisiwn, awgrymodd Suzy ychydig o werthusiad drwy archwiliad mewnol ar effeithiolrwydd yr hyfforddiant a ddatblygwyd i roi'r hyder i staff herio ymddygiad, a chytunodd y swyddogion i ystyried hyn.

8.9         Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Aled p ran penderfyniadau gwleidyddol ynghylch diwygio'r Senedd, rhoddodd Siwan sicrwydd y byddai fframwaith cyfansoddiadol y DU, gan gynnwys materion fel y gostyngiad yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd neu sy'n dod i'r amlwg - pontio i'r Chweched Senedd

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

9.1         Gwahoddodd y Cadeirydd Siwan i gyflwyno'r eitem hon, a chroesawodd Sulafa Thomas, Pennaeth Cymorth y Comisiwn a’r Aelodau i'r cyfarfod. Atgoffodd Siwan y Pwyllgor fod y risg wedi'i hychwanegu at y Gofrestr Risg Gorfforaethol i adlewyrchu effaith bosibl pandemig y Coronafeirws a'r ansicrwydd ynghylch dyddiad yr etholiad, cyfnod y diddymiad a phontio i’r Chweched Senedd. Dywedodd y byddai'r risg bellach yn cael ei chau gyda risgiau gweddilliol o ran darparu a phontio parhaus yn cael eu rheoli ar lefel gwasanaeth.

9.2         Disgrifiodd Siwan sut roedd ymgysylltu effeithiol â chyrff a oedd yn cynnwys y Comisiwn, y Pwyllgor Busnes a'r Bwrdd Taliadau wedi llywio'r gwaith o gynllunio senarios a phenderfyniadau a chanllawiau ynghylch cyfnod yr etholiad a'r diddymiad. Anfonwyd canllawiau wedi'u diweddaru at yr Aelodau a'r staff mewn modd cydgysylltiedig ac amserol.

9.3         Amlinellodd Siwan sut yr oedd y gwahanol elfennau o waith wedi'u cyflawni. Roedd hyn yn amrywio o gynllunio ar gyfer diddymu; cyfathrebu ynghylch yr etholiad, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed a oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf; darparu canllawiau i Aelodau nad oeddynt yn dychwelyd a gwybodaeth gynefino ar gyfer Aelodau newydd ac Aelodau a oedd yn dychwelyd; a chefnogi busnes cynnar y Senedd. O ran llywodraethu, ychwanegodd Siwan fod cynllunio cynnar, sefydlu gweithgorau a chynllunio senarios a chydgysylltydd penodol ar gyfer y prosiect wedi bod yn ffactorau allweddol ar gyfer cyflawni'n llwyddiannus. Ychwanegodd fod strwythurau llywodraethu presennol wedi'u defnyddio i gynnal asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau fel tyngu’r llw, a oedd wedi'u cynnal yn bersonol ac yn rhithiol yn unol â dewisiadau'r Aelodau.

9.4         Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y pandemig, roedd y trefniadau i gefnogi busnes cynnar yn llwyddiannus. Roedd hyn yn cynnwys Cyfarfod Llawn ar 12 Mai i benodi Llywydd, Dirprwy Lywydd ac enwebu'r Prif Weinidog, yn ogystal â chymorth i Aelodau gyflogi staff a chael trefn ar swyddfeydd. Roedd 100 y cant hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cynefino Aelodau. Roedd y rhan fwyaf o'r adborth gan Aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd rhai gwelliannau wedi'u gwneud ar unwaith mewn ymateb i faterion a nodwyd.

9.5         Roedd y gwaith o bontio i'r Chweched Senedd yn parhau o ran penodi deiliaid swyddi, ffurfio Pwyllgorau newydd y Senedd a chynlluniau ar gyfer yr agoriad Brenhinol. Cynigiodd Siwan rannu adroddiadau cau, a fyddai'n cynnwys manylion y gwersi a ddysgwyd, gyda'r Pwyllgor maes o law. Byddai'r rhain yn ystyried adolygiad arfaethedig gan y Comisiwn Etholiadol.

9.6         Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am gynllunio ar gyfer adalw'r Senedd a'i Phwyllgorau yn ystod cyfnod yr etholiad, amlinellodd Siwan sut yr oedd swyddogion wedi gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru i sefydlu meini prawf clir ar gyfer y sefyllfa hon. Roedd yn amlwg mai'r unig amgylchiadau lle byddai hyn yn angenrheidiol fyddai ar gyfer materion yn ymwneud â Covid ac unrhyw oedi i ddyddiad yr etholiad. Rhoddwyd eglurder hefyd ynghylch rheolau o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 7 – Adroddiad Blynyddol ARAC

10.1       Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem hon drwy ddiolch i Kathryn Hughes am ei gwaith rhagorol wrth ddrafftio'r adroddiad. Ei brif feysydd ffocws wrth gyflwyno i'r Comisiwn ym mis Gorffennaf fyddai ymateb rhyfeddol y sefydliad i'r pandemig, yn enwedig gwydnwch y rhai a oedd yn rhan ohono ac ymagwedd y Comisiwn tuag at seiberddiogelwch.  

10.2       Teimlai Ann y dylid dathlu’r ffaith bod urddas a pharch wedi’u cynnwys yn y Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Senedd, a nododd y gallai hyn gael ei gynnwys yn adroddiad blynyddol Pwyllgor Cynghori'r Comisiwn ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu.

10.3       Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Comisiwn a diolchodd i'r tîm clercio am ddrafftio adroddiad mor gynhwysfawr ar weithgarwch. 

 

11.

Y flaenraglen waith

Cofnodion:

ARAC (03-21) – Papur 16 – Blaenraglen waith

11.1       Anogodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i awgrymu eitemau i’r agenda ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.  Yng nghyfarfod mis Gorffennaf, byddai Fframwaith Sicrwydd wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno yn ogystal ag eitem i drafod ymgysylltu â'r Comisiwn newydd i benderfynu ar eu teimladau o ran risg.

11.2       Awgrymodd aelodau'r Pwyllgor y dylid ystyried ymgysylltu â'r canlynol, gan gynnwys yr opsiwn o bresenoldeb posibl mewn cyfarfodydd yn y dyfodol:

·         Archwilydd Cyffredinol Cymru

·         Y Comisiynydd Safonau

·         Cadeirydd y Bwrdd Taliadau

·         Arbenigwyr mewn seiberddiogelwch a seilwaith TG.

Awgrymwyd hefyd y dylid rhannu gwybodaeth am y gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar yr ystâd yn ogystal â'r strategaeth llety yn y dyfodol gyda'r Pwyllgor, gan gynnwys y trafodaethau sydd ar y gweill ar brydles Tŷ Hywel. 

12.

Unrhyw fater arall

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Eitem lafar

12.1       Ni chodwyd unrhyw fater arall.


Bu Manon Antoniazzi yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau o’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y sesiwn hon.


Mae'r cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 9 Gorffennaf 2021.