Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/06/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10.30-10.40

2.

Cylch gwaith y Pwyllgor

ISLC(6)-01-21 – Papur 1 – Cylch gwaith y Pwyllgor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau gylch gwaith a chyfrifoldebau’r Pwyllgor, sydd wedi’i sefydlu dros dro o dan Reol Sefydlog 16 er mwyn cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21.

 

10.40

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10.40-11.00

4.

Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio

ISLC(6)-01-21 – Papur 2 – Ffyrdd o weithio

ISLC(6)-01-21 – Papur 3 – Adroddiad Rhinweddau ar gyfer Offerynnau Statudol a osodwyd ond na chraffodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad arnynt yn ffurfiol yn y Bumed Senedd.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Rheolau Sefydlog sy’n berthnasol i bwyllgorau, a rolau a chyfrifoldebau Aelodau a swyddogion. Trafododd y Pwyllgor hefyd y ffordd o weithio y mae’n ei ffafrio. Os bydd unrhyw broblemau technegol yn effeithio ar y Cadeirydd, o dan Reol Sefydlog 17.22 cytunodd y Pwyllgor i ethol Jack Sargeant AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer holl gyfarfodydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro yn y dyfodol pe bai’r angen yn codi.

 

11.00-11.05

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

ISLC(6)-01-21 – Papur 4 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

5.1

SL(6)007 – Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

11.05-11.15

6.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

6.1

SL(6)002 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021

ISLC(6)-01-21 – Papur 5 – Adroddiad

ISLC(6)-01-21 – Papur 6 – Rheoliadau

ISLC(6)-01-21 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

ISLC(6)-01-21 – Papur 8 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 11 Mai 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

6.2

SL(6)004 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

ISLC(6)-01-21 – Papur 9 – Adroddiad

ISLC(6)-01-21 – Papur 10 – Rheoliadau

ISLC(6)-01-21 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

ISLC(6)-01-21 – Papur 12 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 14 Mai 2021

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

6.3

SL(6)005 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021

ISLC(6)-01-21 – Papur 13 – Adroddiad

ISLC(6)-01-21 – Papur 14 – Rheoliadau

ISLC(6)-01-21 – Papur 15 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

6.4

SL(6)006 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

ISLC(6)-01-21 – Papur 16 – Adroddiad

ISLC(6)-01-21 – Papur 17 – Rheoliadau

ISLC(6)-01-21 – Papur 18 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.