Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu ar gyfer cynigion newydd ar gyfer y ddwy eitem ganlynol ddydd Mawrth:

 

o   Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

o   Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes hefyd at dynnu'r eitem ganlynol yn ôl, a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher:

 

·         Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o’r Siambr ar y ddau ddiwrnod yr wythnos hon.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm. 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad oedd amser i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, gan fod y Gorchymyn wedi'i drefnu i'w drafod ar 24 Mawrth.

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am amserlen y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd a chytunodd y Trefnydd i ddosbarthu nodyn gyda mwy o wybodaeth.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr, ac y bydd yr argymhellion yn cael eu dwyn i sylw'r Pwyllgor Busnes newydd.