Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Sian Gwenllian; Roedd Dai Lloyd yn dirprwyo ar ei rhan.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ohirio’r eitem a ganlyn tan 23 Mawrth:

 

·         Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (10 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o bell yr wythnos hon.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021 –

 

·                     Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau COVID-19 (30 munud) - tynnwyd yn ôl

·                     Datganiad gan y Prif Weinidog: COVID-19: Blwyddyn yn Ddiweddarach (45 munud)

·                    Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru (45 munud)

·                     Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (15 munud)

·                     Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (5 munud) - gohiriwyd o 16 Mawrth

·                     Dadl:  Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru (60 munud) - dataniad llafar

 

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021

 

·         Gorchymyn Diwygio Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2021 / Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud)

·         Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021 –

 

·         Datganiadau 90 Eiliad (5 mun)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn Dilyn Etholiad Senedd

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau Amrywiol

o    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro

·         Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (15 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 05-21 (15 munud)

·         Cyfnod Pleidleisio (15 munud)

·         Datganiadau Cloi (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyflwyno adroddiad erbyn dydd Llun 22 Mawrth.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i fod i gael eu gwneud a'u gosod heddiw, a'u trafod ar 23 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor felly y dylai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rhain hefyd erbyn dydd Llun 22 Mawrth.

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Cam-drin Domestig i graffu arno.

 

 

5.

Busnes y Senedd

5.1

Trefniadau cyflwyno a gosod ar ôl yr etholiad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes bod y Swyddfa Gyflwyno yn parhau i fod ar gau, ac ni fydd yn derbyn unrhyw fusnes tan ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd, ar wahân i dderbyn unrhyw fusnes lle mae’r amseru’n hanfodol neu ffurflenni cofrestru buddiannau, y gellir eu cyflwyno o 7 Mai ymlaen.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd:

·         caiff cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y ffordd arferol, gan nodi mai'r dyddiad olaf ar gyfer eu hateb fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu cyflwyno;

·         y caiff cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno i’w hateb gan y Prif Weinidog, a fydd yn penderfynu pwy ddylai eu hateb, hyd nes y penodir Cabinet newydd; ac

·         y caiff cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynir i Gomisiwn y Senedd eu cyflwyno i’w hateb gan y Llywydd.

 

 

6.

Adroddiadau Rheolau Sefydlog Drafft

6.1

Rheolau Sefydlog Dros Dro

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.

 

 

6.2

Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad drafft ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn dydd Mercher 24 Mawrth.

 

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Canllawiau etholiadol y Senedd i Weinidogion a staff Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau ddarn o ganllawiau.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Ail-osod Offerynnau Statudol

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y ffaith bod y Llywodraeth wedi tynnu'n ôl ac wedi ail-osod rhai Offerynnau Statudol drafft ddydd Gwener yn dilyn camgymeriadau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.  Gan fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn dal i edrych ar nifer o offerynnau statudol drafft, pe bai angen tynnu'n ôl ac ail-osod ymhellach, efallai na fydd digon o amser iddo gyflwyno adroddiad ac efallai y bydd angen ceisio atal offerynnau statudol i gynnal y dadleuon perthnasol.