Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

09.30-09.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-09-21 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)756 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

2.2

SL(5)779 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

09.35-09.40

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)770 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-09-21 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-09-21 Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(5)757 - Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-09-21 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-09-21 Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(5)758 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-09-21 – Papur 9 – Rheoliadau

CLA(5)-09-21 Papur 10 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(5)769 – Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 11 – Adroddiad

CLA(5)-09-21 – Papur 12 – Rheoliadau

CLA(5)-09-21 Papur 13 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb y Llywodraeth iddo, a nododd fod yr offeryn wedi'i dynnu'n ôl a'i ddisodli gan Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021.

 

 

3.5

SL(5)783 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 14 – Adroddiad

CLA(5)-09-21 – Papur 15 – Rheoliadau

CLA(5)-09-21 – Papur 16 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-09-21 – Papur 17 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 3 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

09.40-09.45

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol.

4.1

SL(5)764 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 18 – Adroddiad

CLA(5)-09-21 – Papur 19 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

09.45-09.50

5.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

5.1

WS-30C(5)217 - Rheoliadau Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Cofrestrfa Protocol Kyoto) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 20 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-09-21 - Papur 21 - Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd mewn perthynas â'r datganiad.

 

09.50-09.55

6.

Papur(au) i’w nodi

6.1

Llythyr gan The Kennel Club: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 22 – Llythyr gan Dr Edward Hayes, Pennaeth Materion Cyhoeddus, Y Kennel Club, 9 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr, a chytunodd i dynnu sylw Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ato.

 

6.2

Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd.

CLA(5)-09-21 – Papur 23 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 9 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

6.3

Llythyr oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021 a'r Rheoliadau Organig (Diwygio) 2021

CLA(5)-09-21 – Papur 24 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 12 Mawrth 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

09.55

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

09.55-10.05

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-09-21 – Papur 25 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu), a chytunodd i gwblhau'r drafodaeth arno y tu allan i'r Pwyllgor.

 

10.05-10.15

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-09-21 – Papur 26 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.

 

10.15-11.00

10.

Gwaith gwaddol - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-09-21 – Papur 27 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddrafft diwygiedig o’i adroddiad gwaddol, a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig arall yn y cyfarfod nesaf.