Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Vikki Howells MS, a oedd wedi nodi ymlaen llaw ei bod yn fodlon
â’r adroddiad drafft a fyddai’n cael ei drafod yn ystod eitem 4. |
|
(09.30 - 09.45) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Trefniadau ar gyfer Penodi Uwch Aelodau o Staff Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (26 Chwefror 2021) Dogfennau ategol: |
||
Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (1 Mawrth 2021) Dogfennau ategol: |
||
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Mawrth 2021) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (4 Mawrth 2021) Dogfennau ategol: |
||
Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (8 Mawrth 2021) Dogfennau ategol: |
||
Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (10 Mawrth 2021) Dogfennau ategol: |
||
(09.45 - 10.05) |
Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Llywodraeth Cymru PAC(5)-09-21 Papur
1 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth
Cymru (5 Mawrth 2021) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd yr
Aelodau y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd
yn ysgrifennu yn ôl i ofyn bod yr ymateb yn cael ei anfon at Gadeirydd newydd y
Pwyllgor perthnasol yn y Senedd nesaf. |
|
(10.05 - 11.30) |
Adroddiad Gwaddol: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-09-21
Papur 2 – Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr
Aelodau yr Adroddiad Gwaddol, gan gytuno arno yn amodol ar nifer o ddiwygiadau.
Caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2021. |
|
Sylwadau i gloi Cofnodion: 5.1 Nododd y
Cadeirydd mai dyma gyfarfod olaf y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y bumed
Senedd. Diolchodd i’r Aelodau presennol a’r Aelodau blaenorol am eu gwaith ar y
pwyllgor ac am ymgysylltu â’i waith. 5.2 Aelodau
blaenorol y pwyllgor oedd: ·
Mike
Hedges; ·
Neil
McEvoy; ·
Lee
Waters; ·
Jack
Sargeant; ·
Neil
Hamilton; ·
Adam
Price; ac ·
Angela
Burns. 5.3 Hefyd, talodd
y Cadeirydd deyrnged i Mohammad Asghar, a fu farw ym mis Mehefin 2020.
Ychwanegodd fod y pwyllgor hwn a’r pwyllgorau blaenorol wedi bod yn ffodus iawn
o gael Oscar yn aelod ohonynt. 5.4 Talodd
aelodau’r pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru deyrnged i Nick Ramsay AS am
y ffordd gydsyniol, cynhwysol ac arloesol y llwyddodd i gadeirio’r pwyllgor yn
ystod y pum mlynedd diwethaf. Gwnaethant oll ddymuno’n dda iddo at y dyfodol 5.5 Hefyd, talodd
y Cadeirydd deyrnged i’r gefnogaeth a gafodd gan yr Archwilydd Cyffredinol
presennol a’i ragflaenydd, yn ogystal â thîm yr Archwilydd Cyffredinol, y
Clercod a’r holl staff cymorth yng Nghomisiwn y Senedd. 5.6 Dymunodd y
Cadeirydd yn dda i bawb at y dyfodol. |