Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Jackson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/11/2021 - Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv

 

1.3 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11.20 - 12.30)

3.

Trafodaeth y pwyllgor ar ffyrdd o weithio

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ffyrdd o weithio.