Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/10/2021 - Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Bydd Ei Mawrhydi
y Frenhines, yn ogystal ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Huchelder
Brenhinol Duges Cernyw, yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau 14 Hydref ar gyfer
agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd. Amserlen yr
Agoriad Swyddogol Y byrllysg yn
cyrraedd Wedi’u harwain
gan aelod o dîm Diogelwch y Senedd, a fydd yn cario’r byrllysg, bydd Aelodau
o’r Senedd a gwesteion allweddol yn mynd i mewn i adeilad y Senedd. Salíwt Ynnau
Frenhinol I nodi bod Ei
Mawrhydi y Frenhines wedi cyrraedd Cymru, bydd salíwt 21 gwn yn seinio y tu
allan i’r Pierhead wrth i’r Parti Brenhinol gyrraedd Gorsaf Ganolog Caerdydd. Y Parti
Brenhinol yn cyrraedd Wrth i’r Parti
Brenhinol – Ei Mawrhydi y Frenhines, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei
Huchelder Brenhinol Duges Cernyw – gyrraedd y Senedd, bydd ffanffer yn seinio. Wrth i’r Parti
Brenhinol fynd i mewn i’r Senedd, bydd grŵp o gantorion Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
yn rhoi perfformiad unigryw o ‘Ar Lan y Môr’. Seremoni yn y
Siambr Yn ystod y
seremoni agoriadol ffurfiol yn y Siambr (siambr drafod y Senedd), caiff y
byrllysg seremonïol ei osod yn ei briod le i nodi bod y Chweched Senedd wedi’i
hagor yn ffurfiol. Bydd Ei Mawrhydi
y Frenhines yn gwneud araith, cyn i Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, a Mark
Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, annerch y gynulleidfa. Bydd Ei Mawrhydi
yn llofnodi memrwn coffaol, i gyfeiliant Alis Huws, Telynores Swyddogol Ei
Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Wedyn, adroddir
cerdd sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur, sef ‘Ein Llais’,
gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. Bydd dau o gyn-Aelodau Senedd Ieuenctid
Cymru yn darllen y gerdd. Y Parti
Brenhinol yn ymadael Tân Cerdd yn
perfformio ‘Ymuno’, a gyfansoddwyd yn arbennig gan Lily Beau ac Eadyth Crawford
i nodi’r Agoriad Swyddogol. Y Parti Brenhinol
yn cwrdd â Hyrwyddwyr Cymunedol cyn ymadael â’r Senedd. |