Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2022 - Pwyllgor y Llywydd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ap Owen; dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei ran.

1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

(9.00 - 10.00)

2.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023/24

Y Fonesig Elan Closs Stephens CBE – Comisiynydd Etholiadol Cymru

Shaun McNally – Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol

Kieran Rix - Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Comisiwn Etholiadol

Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, y Comisiwn Etholiadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 ac amcangyfrif atodol 2022-23. 

2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer 2023-24 ac amcangyfrif atodol 2022-23. 

2.3 Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cynllun peilot etholiadol.

2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunwyd ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi).

 

(10.00 - 11.00)

4.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023/24 Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.