Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Huw Gapper 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Llywydd.

 

1.2  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

(10.35 - 10.40)

2.

Gweithdrefnau'r Pwyllgor a'i ffyrdd o weithio

Cofnodion:

2.1 Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro, felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn ystod y cyfarfod, y byddai Peredur Owen Griffiths AS yn arwain y trafodaethau yn ei absenoldeb.

(10.40 - 10.45)

3.

Datganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd y Pwyllgor ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a nodwyd ei fod wedi'i fabwysiadu gan Bwyllgor y Llywydd y Bumed Senedd.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i fabwysiadu datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid a gofynnodd fod y Comisiwn Etholiadol yn rhoi sylw iddo wrth baratoi ei gynigion cyllidebol.

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor lythyr gan Weinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad a Datganoli ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU.

 

4.2 Nododd y Pwyllgor hefyd bapurau briffio a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar Fil Etholiadau Llywodraeth y DU.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunwyd ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(10.45 - 11.45)

6.

Sesiwn friffio technegol: Swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd a'i gefndir deddfwriaethol

Cofnodion:

6.1 Cafodd aelodau’r Pwyllgor friff technegol ar swyddogaethau a chefndir deddfwriaethol y Pwyllgor.

(11.45 - 12.30)

7.

Trafod gohebiaeth ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan Chloe Smith AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad a Datganoli ar y pryd yn gofyn barn y Llywydd ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr ac anfon copi at Weinidogion perthnasol Cymru a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar gyfer eu hystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.