Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Huw Gapper 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Joyce Watson a dirprwyodd Rhianon Passmore ar ei rhan.

 

1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.4 Er y bydd munud o dawelwch yn ystod trafodion Cyfarfod Llawn yr wythnos hon er cof am Syr David Amess AS, roedd y Cadeirydd am fynegi cydymdeimlad y Pwyllgor.

(10.35 - 11.30)

2.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a'i gynllun pum mlynedd

Y Fonesig Elan Closs Stephens CBE – Comisiynydd Etholiadol Cymru

Bob Posner – Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol

Kieran Rix - Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Comisiwn Etholiadol

Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, y Comisiwn Etholiadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddo am gyflwyno ei amcangyfrif ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a'i gynllun pum mlynedd yn gynnar.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y Comisiwn Etholiadol yn fanwl ar ei amcangyfrif ariannol ar gyfer 2022-23 a'i gynllun corfforaethol pum mlynedd.

 

2.3 Nododd y Pwyllgor femorandwm gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ar gynnydd y Comisiwn Etholiadol wrth ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc yng Nghymru, mater sydd o ddiddordeb arbennig i'r Senedd ar ôl gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru.

 

2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ar yr amcangyfrif a'r cynllun fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi).

(11.30 - 12.30)

4.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2022/23 a'i gynllun pum mlynedd: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.