Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Sesiwn dystiolaeth – P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Martin Price, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr
Ysgolion y Fro, Laurence Matuszczyk, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgol
Merthyr Tudful, David Blackwell, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard
Gwyn, y Barri a Chadeirydd Fforwm Cyllideb Addysg Bro Morgannwg. a Matthew
Gilbert, Pennaeth, Ysgol Gynradd Ynys y Barri. |
|
Deisebau Newydd |
|
P-06-1360 Dylid adeiladu ffordd ymadael syml rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain yn Rhosied Dogfennau ategol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i'r ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru a nododd nad oes unrhyw
gynlluniau i gyflwyno ffordd ymadael yn y lleoliad hwn, ac na fyddai'r mater
penodol hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ariannu ffyrdd newydd yn dilyn yr
Adolygiad Ffyrdd. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1364 Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
eisoes wedi cynnal gwaith craffu manwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – a bod
Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion ei hadroddiad – nid
yw’n glir beth arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd er mwyn
ychwanegu gwerth pellach. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu'r
mater pwysig hwn. |
|
P-06-1365 Ailagor llinellau rheilffyrdd i gysylltu gogledd a de Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb
cyn penderfynu ar y cam nesaf. |
|
P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd gadarnhad y Dirprwy Weinidog y bydd
Trafnidiaeth Cymru yn ystyried y ddau lwybr hyn yn ofalus fel rhan o’u
trafodaethau ag awdurdodau lleol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu'n ôl at y
Gweinidog i ofyn am ddiweddariad ar ganlyniad y drafodaeth ar y llwybrau
penodol hyn. |
|
P-06-1368 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gadw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mewn perthynas â Chymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Diolchodd y
Pwyllgor i’r myfyrwyr am gyflwyno eu deiseb, ac am rannu eu dadansoddiad
technegol manwl sy’n gwneud cyfres o argymhellion i ddiwygio’r Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol yn y dyfodol. Cytunodd yr
Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rannu gohebiaeth y deisebwyr, ac i
ofyn am atebion i'r cwestiynau a amlinellwyd yn eu hymateb. At hynny,
cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw at y ddeiseb a rhannu gohebiaeth y deisebwyr
â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, sy'n monitro'r rheoliadau hyn ar hyn o bryd. |
|
P-06-1369 Defnyddiwch enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn
am y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelu enwau Cymraeg lleoedd yng Nghymru. Nododd Joel
James, MS, nad yw'n cefnogi craidd y ddeiseb. |
|
P-06-1370 Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin
Bevan i godi ymwybyddiaeth o’r ddeiseb, gofyn iddynt ei chynnwys fel rhan o’r
ymatebion i’r ymgynghoriad a gofyn beth yw eu cynlluniau a’u hamserlen ar gyfer
gwneud penderfyniadau ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben, sydd wedi'i
ymestyn i 1 Rhagfyr. |
|
P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd gryfder y teimlad a'r gwaith manwl gan ymgyrchwyr. Cytunodd yr
Aelodau i dynnu sylw'r awdurdod lleol at y ddeiseb a gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am yr hyn sy'n cael ei wneud ar y mater. |
|
P-06-1375 Cynnal etholiad Senedd yn gynnar Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru cyn
penderfynu ar y cam nesaf i'w gymryd, gan gynnwys ystyried a ddylid gofyn am
ddadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei ymweliad diweddar â safle
cyffordd ‘Mynegbost’ yr A477 lle cyfarfu â’r Aelod o’r Senedd lleol, Sam Kurtz,
ynghyd ag ymgyrchwyr, cynghorwyr lleol, a chynrychiolwyr o swyddfa Simon Hart. Cytunodd yr
Aelodau i aros am ganlyniad y ddadl sydd i'w chynnal ar 22 Tachwedd. |
|
Papur i'w nodi P-06-1326 – Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth – P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd. |