Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Sesiwn dystiolaeth - Panel 1 - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Steven Mc Gee Janet Jones Wayne Crocker,
Cyfarwyddwr Mencap Cymru Dot Gallagher –
Cadeirydd Mencap Mon Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Steven McGee; Janet Jones; Dot Gallagher, Cadeirydd
Mencap Môn; a Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru. |
|
Sesiwn dystiolaeth - Panel 2 - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Ben Cottam - Ffederaswin
y Busnesau Bach, Pennaeth Cymru Trudy Davies -
Woosnam & Davies News, Llanidloes Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Ben Cottam, Ffederasiwn y Busnesau Bach; a Trudy
Davies, Woosnam & Davies News, Llanidloes. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Rhys ab
Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n dad i
blentyn 3 oed a baban dau fis oed. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y llythyr a ddaeth i law gan Oxfam
Cymru. Cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw at y materion a godwyd a cheisio rhagor
o eglurder gan Lywodraeth Cymru cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd. |
|
P-06-1363 Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
ynghylch y ddeiseb i ofyn am yr amserlen ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad a
materion eraill a godwyd gan yr Aelodau. Bydd hefyd yn trafod y ddeiseb eto
unwaith y daw ymateb Llywodraeth Cymru i law. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ar y cyd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar
y ddeiseb ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar blant sydd
wedi bod mewn gofal. Nododd yr Aelodau
y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau i fonitro cynnydd ar y
materion ehangach sy’n berthnasol i’r ddeiseb hon, felly cytunwyd y dylid cau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r Pwyllgor. |
|
P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys yn gofyn am
arwyddion i gyfeirio ymwelwyr at y safle ac arwydd mwy amlwg wrth gyrraedd y
safle. |
|
P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebydd a Llywodraethwyr Cymru i un
o gyfarfodydd y Pwyllgor ym mis Tachwedd i roi tystiolaeth ar y materion
penodol y maent yn eu hwynebu a'r datrysiadau y maent am eu cynnig. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |