Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

2.

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Mark Harris – Home Builders Federation

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Harris, Cynghorydd cynllunio a pholisi ar gyfer y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yng Nghymru

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1341 Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu'r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod y

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n cynnal ymchwiliad manwl i fynediad cyfartal at addysg a gofal plant. 

 

Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ofyn a fyddent yn ystyried cael tystiolaeth gan y deisebydd fel rhan o’u hymchwiliad manwl.

 

3.2

P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r deisebydd yn un o'i etholwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i ofyn am ymateb i rai o’r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd na roddwyd sylw iddynt eto.

 

3.3

P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau fel y disgrifiwyd gan y deisebwyr.

 

3.4

P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chyfeirio at sesiwn breifat y cyfarfod a’i thrafod ochr yn ochr â blaenraglen waith y Pwyllgor.

 

Cytunwyd yn ddiweddarach y byddai'r ddeiseb yn cael ei thrafod eto yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 9 Hydref er mwyn i'r Aelodau archwilio opsiynau pellach a'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'r ddeiseb.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cwrdd â'r deisebydd ar sawl achlysur.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog am ddiweddariad terfynol yn dilyn Bwrdd Cynghori’r Gweinidog ar 25 Medi.

 

4.2

P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd blaenraglen waith y Pwyllgor Diben Arbennig Covid ar gael.

 

4.3

P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cyfarfod â'r deisebydd ac wedi bod yn rhan o drafodaethau trawsbleidiol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael.

 

4.4

P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl â Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n dioddef o'r cyflwr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog i dynnu sylw at y pryderon a godwyd bod rhiwmatolegwyr yn gwrthod gweld cleifion EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd, gan bwysleisio'r angen i fynd i'r afael â hyn gyda Byrddau Iechyd Lleol.

 

5.

Papur i’w nodi - P-06-1344 Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.