Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Deisebau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
||
(14:00 - 15:00) |
Sesiwn dystiolaeth 1 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Neil Kenward, Ofgem Cofnodion: Holodd y Pwyllgor Neil Kenward o Ofgem am y sgandal
mesuryddion rhagdalu yng Nghymru. |
|
(15:00 - 16:00) |
Sesiwn dystiolaeth 2 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Chris O’Shea, Centrica Dhara Vyas, Energy UK Andrew Ward, Scottish Power Retail Dogfennau ategol:
Cofnodion: Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr o gwmnïau ynni am y
sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru. |
|
Deisebau Newydd |
||
P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd nad oedd y
Gweinidog o blaid gwahanu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cydnabu’r
Pwyllgor y pryder ynghylch canlyniadau cleifion a nododd i’r mater hwn cael ei
drafod yn helaeth yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd. Yn sgil hyn, penderfynwyd diolch
i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
||
P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am yr amcangyfrif gorau o gost
darparu gwasanaethau canolfannau hamdden yn rhad ac am ddim i bobl ifanc.
Penderfynodd y Pwyllgor drafod effaith y ddeiseb ar draws llawer o feysydd polisi
megis iechyd a gweithgareddau i bobl ifanc. |
||
P-06-1328 Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Gan fod y Llywodraeth yn
gefnogol i’r syniad, a chan ei bod wedi buddsoddi i sicrhau cyflog byw
gwirioneddol, penderfynodd y Pwyllgor longyfarch y deisebwyr a chau’r ddeiseb. |
||
P-06-1329 Gosod uchelgais ac amserlen glir i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yn y wlad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a phenderfynodd aros am
ganlyniad adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg (sydd i'w gyhoeddi y mis hwn) ac ymgynghoriad Papur Gwyn
Llywodraeth Cymru. |
||
P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd
ymgynghoriad pellach a phroses ddeddfwriaethol lawn cyn i unrhyw gynnig gael ei
gyflwyno. Penderfynodd y Pwyllgor aros am i ganlyniadau’r ymgynghoriad
cyhoeddus gael eu cyhoeddi cyn cau’r ddeiseb. |
||
P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor Busnes am amser ar gyfer dadl yn y
Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth
Cymru wedi cydnabod y mater a’i bod wrthi’n ceisio mynd i'r afael ag ef.
Cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb ar agor a chroesawu’r cynnig o
ddiweddariadau cynnydd pellach gan y Dirprwy Weinidog. |
||
P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chan fod y Gweinidog
wedi penderfynu peidio â deddfu yn y maes hwn, penderfynwyd nad oedd dim i’w
wneud ond diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
||
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd y bu dadl fywiog
yn y Siambr ar y pwnc hwn yr wythnos flaenorol. Penderfynodd y Pwyllgor gadw’r
ddeiseb ar agor tra’n aros gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i adroddiad
a ddisgwylir ym mis Tachwedd. |
||
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r
Gweinidog ymateb i sylwadau a chwestiynau Tassia ac annog y Gweinidog i gwrdd â
Tassia, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran cleifion canser metastatig y fron. |
||
P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod adolygiad annibynnol o Asesiadau o
Ddigonolrwydd Gofal Plant yn 2022 i’w gyhoeddi’n fuan a chytunwyd i gadw’r
ddeiseb ar agor tra’n disgwyl y cyhoeddiad hwnnw. |
||
P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i adolygu’r
terfyn cyflymder ar ôl i ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi, a chytunwyd nad
oedd fawr ddim arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd
i’r deisebydd. |
||
Papurau i'w nodi Cofnodion: Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Papur i’w nodi - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol: |
||
Papur i'w nodi - P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Papur i'w nodi - P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Papur i'w nodi - P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a’r camau
nesaf. |
||
Adroddiad Blynyddol: Strwythur amlinellol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y strwythur arfaethedig. |