Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd yr Aelodau bawb i'r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriad gan Joel James AS. Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn
dirprwyo ar ran Joel James AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1318 Eithrio ffyrdd A a B yng Nghymru o’r cyfyngiad cyflymder cyffredinol arfaethedig o 20 mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi
cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi
cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant
fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r
deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau. |
|
P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytuno i'w chadw ar
agor tra’n disgwyl yr adroddiad cyfnod 2, ac i anfon ymateb y deisebydd ymlaen
at y Dirprwy Weinidog yn y cyfamser i ofyn am ei farn arno. |
|
P-06-1322 Dylid ailddyrannu’r £30 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i’r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi
cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi
cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant
fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r
deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau. |
|
P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunwyd i gynnal
ymchwiliad i’r mater. Cytunodd yr Aelodau i drafod yr ymchwiliad yn fanylach yn
ystod y sesiwn breifat. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y gwaith a
wnaed eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lygredd
amaethyddol yn fwy cyffredinol, a bwriad Dŵr Cymru i uwchraddio'r systemau carthffosiaeth yn
Aberhonddu, Llan-ffwyst a Brynbuga, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd. At hynny, cytunodd yr Aelodau i anfon manylion y ddeiseb
at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. |
|
P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ar y ddeiseb a'r ddadl
ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn, a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr
ymgynghoriad ar argymhelliad y Pwyllgor, ac i adolygu unrhyw gynnydd a chamau
gweithredu a allai godi yn sgil hynny. |
|
P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y safbwynt
clir a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniad y cyngor yn dilyn
ymgynghoriad cyhoeddus i fwrw ymlaen â'i bartneriaeth â Live Nation, cytunodd
yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn gofyn am ddadl ar
adroddiad y Pwyllgor a’r ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad
hwnnw. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig.
|
|
Cylch gorchwyl – P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a bydd yn cynnal
ymchwiliad ar y mater cyn diwedd tymor yr haf. |
|
P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i wahodd rhanddeiliaid i roi tystiolaeth ar y mater dros y misoedd
nesaf. |