Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd yr Aelodau bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.

 

Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1318 Eithrio ffyrdd A a B yng Nghymru o’r cyfyngiad cyflymder cyffredinol arfaethedig o 20 mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau.

 

2.2

P-06-1319 Rhowch groesfan i gerddwyr ar yr A4042 wrth groesffordd Goytre Arms a lleihau’r terfyn cyflymder i 20mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytuno i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr adroddiad cyfnod 2, ac i anfon ymateb y deisebydd ymlaen at y Dirprwy Weinidog yn y cyfamser i ofyn am ei farn arno.

 

2.3

P-06-1322 Dylid ailddyrannu’r £30 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i’r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau.

 

2.4

P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunwyd i gynnal ymchwiliad i’r mater.

 

Cytunodd yr Aelodau i drafod yr ymchwiliad yn fanylach yn ystod y sesiwn breifat.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lygredd amaethyddol yn fwy cyffredinol, a bwriad Dŵr Cymru i uwchraddio'r systemau carthffosiaeth yn Aberhonddu, Llan-ffwyst a Brynbuga, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

At hynny, cytunodd yr Aelodau i anfon manylion y ddeiseb at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

 

3.2

P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ar y ddeiseb a'r ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn, a chytunodd i'w chadw ar agor tra’n disgwyl yr ymgynghoriad ar argymhelliad y Pwyllgor, ac i adolygu unrhyw gynnydd a chamau gweithredu a allai godi yn sgil hynny.

 

3.3

P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y safbwynt clir a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniad y cyngor yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i fwrw ymlaen â'i bartneriaeth â Live Nation, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.4

P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn gofyn am ddadl ar adroddiad y Pwyllgor a’r ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig. 

 

5.

Cylch gorchwyl – P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a bydd yn cynnal ymchwiliad ar y mater cyn diwedd tymor yr haf.

 

6.

P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd rhanddeiliaid i roi tystiolaeth ar y mater dros y misoedd nesaf.