Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS. |
||
Deisebau newydd |
||
P-06-1309 Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a dywedodd Joel James ei fod o blaid cynnal refferendwm.
Nododd Aelodau eraill fod nifer o bwyllgorau’r Senedd wedi ystyried y mater yn
ofalus iawn, ac roeddent i gyd wedi argymell bod angen cynyddu nifer yr Aelodau
o’r Senedd er mwyn medru craffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil
Diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a bydd hwn eto’n gyfle i’r Senedd drafod
y materion hyn a chraffu arnynt. O ystyried hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1310 Gwarchod Mynydd Eglwysilan a Chefn Eglwysilan Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y byddai gwaith ymgysylltu ac ymgynghori â
rhanddeiliaid yn mynd rhagddo pe bai cais yn cael, neu’n debygol o gael, ei
gyflwyno ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. O ystyried hyn,
cytunodd yr Aelodau nad oedd fawr ddim arall y gallent ei wneud fel Pwyllgor ac
y dylid cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1311 Dylid cymhwyso buddiannau Cymru ac amddiffyn cyfraith ryngwladol yn erbyn marwolaeth pysgod oherwydd EDF-Hinkley yn Aber Afon Hafren Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chau o ystyried bod y Gweinidog wedi rhannu
canfyddiadau ei grŵp
gyda’r Gweinidog cyfatebol yn
Llywodraeth y DU, a bod ymchwiliad cyhoeddus wedi cadarnhau bod angen cyfarpar
atal pysgod acwstig. |
||
P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau’r
Dyfodol i ofyn am ei farn am hyn a gohebiaeth diweddaraf y deisebydd. |
||
P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i aros am ganlyniadau’r ymgynghoriad a
gynhaliwyd yn ddiweddar ynghylch eithriadau. Bydd y Pwyllgor
yn trafod y ddeiseb eto ymhen tri mis. |
||
P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd sesiwn bord gron yn cael ei chynnal i drafod
y mater hwn ar ddiwedd y cyfarfod cyhoeddus. Cytunodd yr Aelodau i adrodd yn ôl
i’r Pwyllgor pan fyddai’n cyfarfod rywdro eto i drafod y camau nesaf i’w cymryd
mewn perthynas â’r ddeiseb. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Senedd.
Diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig hwn ac am eu sylwadau
diweddaraf. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl a chaeodd y ddeiseb. |
||
P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a gofynnodd i swyddogion baratoi papur cwmpasu ynghylch sut
y gallai’r Pwyllgor gefnogi’r digwyddiad roedd y deisebwr am ei gynnal yn y
Senedd i dynnu sylw at yr heriau cysylltiedig â’r pryniant corfforaethol o’r
proffesiwn milfeddygol yng Nghymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig |
||
Blaenraglen Waith Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith. |
||
(15.00) |
Trafodaeth bord gron yn codi o P-06-1314 Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb! Cofnodion: Cynhaliodd y
Pwyllgor drafodaeth bord gron ar y mater gyda nifer o randdeiliaid allanol. |