Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

Anfonodd Luke Fletcher AS ei ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau Newydd

2.1

P-06-1288 Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

  • y Dirprwy Weinidog i holi am yr amserlenni penodol ar gyfer datblygu gorsaf Magwyr, ac a ellid ei hwyluso yn gynt fel 'llwyddiant cyflym' fel rhan o'r cynllun gan yr Uned Gyflawni; a’r

cwmnïau trenau, First Great Western a Thrafnidiaeth Cymru, yn gofyn pryd y byddant yn barod i redeg trenau i Fagwyr ac oddi yno, a pha rwystrau penodol, os o gwbl, sydd ar y safle i'w hatal rhag gwneud hynny yn gynt.

 

2.2

P-06-1296 Gwnewch gyffordd Dorglwyd, Comins Coch ar yr A487 yn fwy diogel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi ymrwymiad y Gweinidog i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol y mae'r Adolygiad o Ffyrdd yn eu hargymell i wella diogelwch ar y gyffordd hon. Yng ngoleuni ymrwymiad y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

2.3

P-06-1298 Deiseb ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y Brifysgol wedi ymchwilio i honiadau, bod yr Heddlu'n ymwybodol o'r mater ac nid yw'r Gweinidog yn gallu ymyrryd. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na ellir mynd â’r ddeiseb hon ymhellach, cafodd y ddeiseb ei chau a diolchwyd i’r deisebydd.

 

2.4

P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir ynghylch y rhesymu dros dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny sydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau ei bod yn anodd gweld beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd a chafodd y ddeisesb ei chau a diolchwyd i'r deisebydd.

 

2.5

P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nodi'r gwaith helaeth a wnaed yn ddiweddar gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, a gafodd ei gyhoeddi a'i drafod yn gynharach eleni.

 

Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog yn rhannu gohebiaeth y deisebydd ac yn gofyn iddi fynd i'r afael â:

 

  • sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau digonolrwydd y ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan;
  • sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod darpariaeth ar gael yn gynharach yn y bore ac yn hwyrach gyda'r nos ac i'r rhai sy'n gweithio oriau gwahanol; a

pha gynlluniau sydd ar gael i roi cefnogaeth gyffredinol i rieni sydd angen darpariaeth gofal plant.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ailedrych arni ymhen chwe mis i weld pa gynnydd sydd wedi'i wneud.

 

 

3.2

P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog yn gofyn iddi fynd i'r afael â rhai cwestiynau heb eu hateb yn sgil y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn. 

 

3.3

P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ailystyrodd y Pwyllgor y ddeiseb yn sgil rhagor o ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi busnesau hunanddarpar na fydd yn gallu cwrdd â lefel y ddeiliadaeth oherwydd diffyg galw, yn arbennig yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf ac os yw ystadegau'n dangos dirywiad sydyn mewn eiddo hunanddarpar,  a yw Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y cyfraddau deiliadaeth ac yn ystyried eu hadolygu.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.