Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.

 

Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.

 

2.

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

Yr Athro Abigail Marks (Athro Dyfodol Gwaith), Prifysgol Newcastle

 

Will Stronge (Cyfarwyddwr Ymchwil), Autonomy

 

Louisa Neale (Ysgogydd Arweiniol Newid Pobl a Diwylliant), Comisynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Cheney Hamilton (Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd), sefydliad Find Your Flex

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cheney Hamilton, Will Stronge, Louisa Neale a’r Athro Abigail Marks.

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Twr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon cynyddol am gyflwr ein hafonydd a’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan bwyllgorau’r Senedd, mewn cyfarfodydd llawn, gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

 

Cytunodd yr Aelodau i annog y deisebwyr i fynd ar drywydd y broses sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i bobl wneud cais i ddynodi ardaloedd newydd o ddyfroedd ymdrochi, a chytunwyd i rannu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.   

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, er y cytunodd yr Aelodau fod hwn yn fater pwysig iawn, maent yn derbyn bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud gwaith i wella'r strategaeth gwrth-fwlio.  Cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gallant ei wneud fel Pwyllgor, ond nodwyd y gallant godi ymwybyddiaeth fel unigolion o'r mater pwysig hwn a'r arfer da a rennir. Wrth gau’r ddeiseb, canmolodd yr Aelodau’r bobl ifanc am eu hymrwymiad a’u hymgysylltiad â’r Pwyllgor Deisebau drwy gydol y gwaith, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, a gwnaeth y Pwyllgor eu llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud yn eu cymuned eu hunain.

 

4.2

P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i CCAUC am ei ymatebion trylwyr i'r Pwyllgor a nododd, er bod gweithio o bell yn cynnig manteision, fod anfanteision i eraill hefyd. Mae’n pwysleisio y dylai prifysgolion weithio gyda'u myfyrwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

4.3

P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi'u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy'n rhoi unigolion dan anfantais annheg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ei bod yn credu nad yw’r statws ardal wedi’i rhag-asesu yn rhoi unigolion dan anfantais, ac rydym hefyd wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog y bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru’n ddiweddarach eleni, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

4.4

P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y cafodd ei thrafod yn angerddol yn y Senedd ar 29 Mehefin, ac mae’n cydnabod nad dyma’r ddadl gyntaf nac yn debygol o fod y tro olaf i’r mater pwysig hwn ddod gerbron y Senedd. Fodd bynnag, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, gan ei fod wedi cynnal dadl ar y mater hwn eisoes. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.

 

4.5

P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er na fu dim cynnydd o ran dod o hyd i gartref parhaol ar gyfer y casgliad, ei fod gan Archifau Morgannwg ar hyn o bryd a bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld o hyd. Yn sgil hyn, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar y mater, felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant am ei hymateb meddylgar a dymuno'n dda iddi wrth chwilio am gartref tymor hir ar gyfer y casgliad yn y dyfodol.

 

4.6

P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Adroddiad drafft - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad gyda rhai newidiadau mân.

 

7.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr ar y ddeiseb.

 

8.

Dulliau o weithio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Myfyriodd y Pwyllgor ar ei waith eleni a thrafododd y camau nesaf ar gyfer tymor yr hydref.