Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

 

Mynychodd Jane Bryant AS y cyfarfod yn lle Buffy Williams AS.


Mynychodd Joel James AS ran gyntaf y cyfarfod ond oherwydd ymrwymiadau ar bwyllgor arall anfonodd ei ymddiheuriadau ar gyfer yr ail hanner. Ymunodd Altaf Hussain AS fel dirprwy o eitem 3 y cyfarfod.

 

Datganodd Jack Sargeant AS a Luke Fletcher AS eu bod yn adnabod Mark Hooper, prif ddeisebydd P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru a Shavanah Taj, a fydd ill dau yn rhoi tystiolaeth yn ystod eitem 2 busnes heddiw.

(14.00 - 14.40)

2.

Sesiwn dystiolaeth - (Panel 1) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

 

Mark Hooper, Deisebydd

 

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru Dros Dro  

Cyngres yr Undebau Llafur

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Hooper, y prif ddeisebydd a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cyngres Undebau Llafur Cymru.

(14.40 - 14.50)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1282 Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y deisebydd eisoes wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru ac wedi cael gwahoddiad i ddrafftio cynnig ar gyfer y Dirprwy Weinidog, estynnodd yr Aelodau longyfarchiadau i’r deisebydd, mynegwyd eu gwerthfawrogiad o’r angen i gadw a hyrwyddo barddoniaeth Gymraeg, a chytunwyd i gau'r ddeiseb.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau hefyd o'r gwahoddiad i fynychu'r cyflwyniad yn y Senedd ar Farddoniaeth Gymraeg sydd i'w gynnal ar 28 Mehefin.

3.2

P-06-1283 Dylid cyflwyno system orfodol o ficrosglodynnu cathod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y ffaith bod Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried system orfodol o ficrosglodynnu cathod, ac y bydd newidiadau yn y dyfodol o ran sganio a chronfeydd data yn cael eu hystyried fel rhan o waith parhaus gyda Llywodraeth y DU. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd.

3.3

P-06-1284 Cadwch ysgolion ar agor yn nhymor y Gwanwyn 2022.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan nad oes unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod ysgolion yn gweithredu fel arfer, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.4

P-06-1285 Codi'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan nad oes unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod digwyddiadau chwaraeon awyr agored wedi ailddechrau fisoedd yn ôl, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

(14.50 - 15.00)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-06-1257 Lleihau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y deisebydd gyda chynnydd araf Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn. Fodd bynnag, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi deddfwriaeth ar waith i wella hawliau lesddeiliaid, ychydig iawn y gall y Pwyllgor ei wneud ymhellach, ar hyn o bryd, ac felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

4.2

P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y mater yn waith sy’n mynd rhagddo ac nad oes llawer o waith pellach y gallant ei wneud fel Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd.

4.3

P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi gwneud rhywfaint o waith manwl yn ddiweddar ar adolygu’r rheoliadau, ac wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Yn sgil y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ar y mater, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

(15.00 - 15.30)

5.

Sesiwn dystiolaeth - (Panel 2) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Joe O'Connor, Prif Swyddog Gweithredol, 4 Day Week Global

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i gymryd tystiolaeth bellach ar y ddeiseb yn y cyfarfod nesaf ar 11 Gorffennaf.

(15.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn rhithwir, gan Joe O’Connor, Prif Swyddog Gweithredol, Global 4 Day Week.

8.

Materion allweddol - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y materion o bwys ond cytunodd i ailddechrau'r drafodaeth yn ddiweddarach pan fydd holl Aelodau'r Pwyllgor yn bresennol.