Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Mynychodd Jane
Bryant AS y cyfarfod yn lle Buffy Williams AS.
Datganodd Jack
Sargeant AS a Luke Fletcher AS eu bod yn adnabod Mark Hooper, prif ddeisebydd
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi
treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru a Shavanah Taj, a fydd ill
dau yn rhoi tystiolaeth yn ystod eitem 2 busnes heddiw. |
||
(14.00 - 14.40) |
Sesiwn dystiolaeth - (Panel 1) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Mark Hooper,
Deisebydd Shavanah Taj,
Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru Dros Dro Cyngres yr
Undebau Llafur Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Hooper, y prif ddeisebydd a Shavanah Taj,
Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cyngres Undebau Llafur Cymru. |
|
(14.40 - 14.50) |
Deisebau newydd |
|
P-06-1282 Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y deisebydd eisoes wedi
cyfarfod â Llywodraeth Cymru ac wedi cael gwahoddiad i ddrafftio cynnig ar
gyfer y Dirprwy Weinidog, estynnodd yr Aelodau longyfarchiadau i’r deisebydd,
mynegwyd eu gwerthfawrogiad o’r angen i gadw a hyrwyddo barddoniaeth Gymraeg, a
chytunwyd i gau'r ddeiseb. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau hefyd o'r gwahoddiad i fynychu'r
cyflwyniad yn y Senedd ar Farddoniaeth Gymraeg sydd i'w gynnal ar 28 Mehefin. |
||
P-06-1283 Dylid cyflwyno system orfodol o ficrosglodynnu cathod yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y ffaith bod Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru
2021-26 Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried system orfodol o
ficrosglodynnu cathod, ac y bydd newidiadau yn y dyfodol o ran sganio a
chronfeydd data yn cael eu hystyried fel rhan o waith parhaus gyda Llywodraeth
y DU. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1284 Cadwch ysgolion ar agor yn nhymor y Gwanwyn 2022. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gan nad oes
unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod ysgolion yn gweithredu fel arfer,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1285 Codi'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored ar unwaith Dogfennau ategol: Cofnodion: Gan nad oes unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod digwyddiadau
chwaraeon awyr agored wedi ailddechrau fisoedd yn ôl, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
(14.50 - 15.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1257 Lleihau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y deisebydd gyda chynnydd araf
Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn. Fodd bynnag, o ystyried bod
Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi deddfwriaeth ar waith i wella hawliau
lesddeiliaid, ychydig iawn y gall y Pwyllgor ei wneud ymhellach, ar hyn o bryd,
ac felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y mater yn waith sy’n mynd rhagddo ac nad oes
llawer o waith pellach y gallant ei wneud fel Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
wedi gwneud rhywfaint o waith manwl yn ddiweddar ar adolygu’r rheoliadau, ac
wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Yn sgil y gwaith sydd eisoes
wedi’i wneud ar y mater, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud.
Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
||
(15.00 - 15.30) |
Sesiwn dystiolaeth - (Panel 2) P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Joe O'Connor,
Prif Swyddog Gweithredol, 4 Day Week Global Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i gymryd tystiolaeth bellach ar y
ddeiseb yn y cyfarfod nesaf ar 11 Gorffennaf. |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth yn rhithwir, gan Joe O’Connor, Prif Swyddog Gweithredol,
Global 4 Day Week. |
||
Materion allweddol - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn
trafod y materion o bwys ond cytunodd i ailddechrau'r drafodaeth yn
ddiweddarach pan fydd holl Aelodau'r Pwyllgor yn bresennol. |