Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Pwyllgor bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriad gan Luke Fletcher AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod y pryderon gwirioneddol a gododd y deisebydd. Er
nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â’r ddeiseb,
cytunwyd ei bod yn bwysig tynnu sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at
y pryderon ac ymateb y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan
ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater. Wrth wneud hynny,
cytunodd yr Aelodau hefyd i wneud y canlynol:
|
|
P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd bod hwn yn fater hynod emosiynol. Cytunodd yr
Aelodau i ysgrifennu'n ôl at y Prif Weinidog yn gofyn iddo roi ymateb wedi'i
ddiweddaru i'r Pwyllgor gan fod y wybodaeth ddiweddaraf am rôl Prif Weinidog y
DU ynghylch y cylch gorchwyl wedi dod i law. |
|
P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig sydd wrthi’n cynnal adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru)
2021, i ofyn a oedd modd trafod y materion a gododd y ddeiseb fel rhan o’r
gwaith hwnnw. |
|
P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi'u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy'n rhoi unigolion dan anfantais annheg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y ddeiseb a chytunodd i wneud y canlynol
ysgrifennu yn ôl
at y Gweinidog i ofyn pam nad yw’r canllawiau i gefnogi’r gwaith o ddarparu
Cymru’r Dyfodol wedi’u cyhoeddi eto i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau ac
i gael eglurhad ar yr amserlen i’w cyhoeddi. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb y Gweinidog a oedd yn tynnu sylw at gynnydd
y Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) a bod swyddogion yn ymgysylltu â Defra
ar y mater hwn. Yn sgil y gwaith parhaus ar y mater, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa wrth aros am ail
gyfnod yr adroddiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. |
|
P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n parhau i
fod yn gynghorydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf tan ddiwedd y
dydd ar 9 Mai 2022 Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio ymateb cadarn y Gweinidog bod y fframwaith
polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig presennol yn darparu digon o amddiffyniad,
cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd, ac annog Aelodau
unigol o'r Senedd i fynegi pryderon pan fyddant yn codi. |
|
P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am
adolygiad o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gwarchod bioamrywiaeth ond nad oes
ganddi gynlluniau i wneud hynny ar hyn o bryd, cytunodd yr Aelodau i ddiolch
i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i nodi barn Heledd Fychan AS, o gofio’r gydnabyddiaeth o’r angen
i adolygu deddfwriaeth, y dylai ddigwydd fel rhan o’r ymateb i’r argyfwng
hinsawdd, natur a bioamrywiaeth. |
|
P-06-1218 Hysbysu pob person 18 oed sydd wedi derbyn gofal cymdeithasol fod ganddynt yr hawl i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i'r Pwyllgor gael copi o'r llythyr ar ôl
iddo gael ei anfon i bob awdurdod lleol. |
|
P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o’n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac, yn sgil y dystiolaeth a ddaeth i law nad ystyrir bod
barbeciws untro yn broblem enfawr o safbwynt diogelwch tân, ac y byddai’n anodd
gorfodi gwaharddiad, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi'r
mater a chau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny,
anogodd y Pwyllgor bobl Cymru ac unrhyw un sy’n dod i ymweld yr haf hwn i
ddefnyddio barbeciws untro mewn ffordd ddiogel, a’u gwaredu’n briodol, gan
sicrhau mai diogelwch sydd bwysicaf, ac y gall pawb fwynhau’r parciau
cenedlaethol a’n gwarchodfeydd natur a’n traethau bendigedig ar draws Cymru. |
|
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Rhoddodd Steven
Williams, Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion, drosolwg o ymgysylltiad diweddar â
rhieni ar draws Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan rannu rhai o’r
themâu allweddol y tynnwyd sylw atynt. Diolchodd i'r 24 o unigolion a
gyfrannodd a rhannu eu profiadau, a oedd yn aml yn anodd. Rhannodd Jack
Sargeant AS a Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ac aelod o’r
Pwyllgor, eu profiad diymhongar o wrando ar rieni â phrofiad o fod mewn gofal
yn cael eu cefnogi gan Voices from Care a diolch iddynt am eu hamser ac am
rannu eu profiadau. Mae'r Pwyllgor
wedi gwahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfod yn y
dyfodol. |
|
P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 6 o’r cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafodaeth ar yr Adroddiad Blynyddol drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno ar rai mân newidiadau. Bydd yr adroddiad
drafft yn cael ei drafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. |