Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Sesiwn Dystiolaeth – P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl Jonathan Rhys
Williams, Prif Ddeisebydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1185 Dylai cyfnod preswylio 3 blynedd o leiaf fod yn ofynnol i bob ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i’w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon, pe bai’r
Pwyllgor hwnnw’n penderfynu ystyried y maes dan sylw. Wrth ysgrifennu at y
Pwyllgor Diben Arbennig, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r
deisebydd. |
|
P-06-1186 Dylid atal pobl nad ydynt wedi byw yng Nghymru ers o leiaf 6 mis rhag ymgeisio yn etholiadau’r Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i’w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon, pe bai’r
Pwyllgor hwnnw’n penderfynu ystyried y maes dan sylw. Wrth ysgrifennu at y
Pwyllgor Diben Arbennig, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r
deisebydd. |
|
P-06-1206 Adolygwch safonau Mynediad i Bractis Cyffredinol yng Nghymru yng ngoleuni pandemig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod
effaith y pandemig ar feddygon teulu ac wedi ymestyn y cyllid sydd ar gael am
flwyddyn arall i gefnogi’r broses o weithredu ac ymgorffori’r safonau mynediad.
Nododd y Pwyllgor hefyd fod Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymdeithas Feddygol
Prydain wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch y safonau a'r contractau
gwasanaeth. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Yn flaenorol, roedd yn aelod o’r Grŵp Llywio ar Faterion y Gymraeg yng Nghyngor
Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i Gomisiynydd y Gymraeg am ei
sylwadau ar y mater hwn, gan ofyn iddo hefyd a yw'n gwneud unrhyw waith yn y
maes hwn. |
|
P-06-1210 Ataliwch Lywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd i ofyn am fanylion pellach am y broses eithrio. |
|
P-06-1211 Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a’r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor bryderon y deisebydd, ond nododd hefyd
fod strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar yr
amgylchedd, ansawdd aer a llesiant pobl drwy ganolbwyntio ar deithio amgen a
gwella’r seilwaith ar gyfer teithio cyhoeddus. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad
nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y camerâu
cyflymder cyfartalog ar hyn o bryd, a chytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn sgil y ffaith y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei
hymateb i ymgynghoriad ar y mater hwn mewn tri mis, cytunodd y Pwyllgor i aros
am yr ymateb hwn cyn trafod y ddeiseb hon ymhellach. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weld a fu unrhyw gydlynu ar y mater hwn
rhwng awdurdodau lleol morwrol yng Nghymru. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau i Rhian Mannings,
y deisebydd, a phawb sydd wedi cefnogi’r ddeiseb ar sicrhau newid cadarnhaol ac
ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pawb sy'n colli plentyn neu
oedolyn ifanc yn cael cynnig gofal a chymorth profedigaeth ar unwaith, a hynny’n
unol â safonau y cytunir arnynt. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a
chytunodd yr Aelodau hefyd i ddefnyddio'r ddeiseb hon fel astudiaeth achos ar
gyfer deisebau yn y dyfodol. |
|
P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y bydd yn cymryd amser i sefydlu ac
ymgorffori dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran darparu gwasanaeth 24 awr y
dydd lle cynigir ymatebion priodol a llwybrau cymorth. Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid i
wneud cais bod y ddeiseb a'r ohebiaeth yn cael eu cynnwys fel rhan o waith
craffu yn y dyfodol ar wasanaethau iechyd meddwl. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i Laura am
rannu ei phrofiadau o ran yr heriau y mae'n parhau i'w hwynebu wrth geisio cael
mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol ac amserol, a hynny er mwyn dylanwadu
ar y broses a’i newid er budd eraill sy’n wynebu amgylchiadau tebyg. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd
newydd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwaith y gweithgor, ynghyd ag
amserlen ar gyfer gweld cynnydd ar y mater hwn. |
|
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y dull a gafodd ei argymell yn y
papur cwmpasu, a chytunodd i gymryd tystiolaeth uniongyrchol gan rieni sydd
wedi bod mewn gofal, awdurdodau lleol, CAFCASS a sefydliadau yn y trydydd
sector sy'n cefnogi pobl ifanc. Cytunodd hefyd i wahodd academyddion o'r
Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd i
gyflwyno canfyddiadau eu hymchwil yn y maes hwn. |
|
P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi cynnal trafodaethau uniongyrchol â’r deisebwyr
ynghylch y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn
y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei
Chynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 yn fuan. Yn ogystal, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith eto, ac am y tro olaf, i wneud
cais bod sylw yn cael ei roi i’r galwadau am gynllun i helpu pobl i gael hawl i
ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Wrth wneud hynny, cytunodd y
Pwyllgor y byddai’n cau’r ddeiseb ac yn diolch i’r deisebydd am godi’r mater
hwn. |
|
P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn croesawu cyhoeddiad
Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno moratoriwm ar ynni newydd ar raddfa fawr o
weithfeydd gwastraff, a’i fod yn gwerthfawrogi manylion pellach ynghylch y
broses. Yn sgil y ffaith nad oedd gan y deisebydd unrhyw faterion
pellach i'w codi, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i longyfarch y
deisebydd ar sicrhau canlyniad llwyddiannus. |
|
P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Gweinidog am y wybodaeth
ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfodydd a gynhaliwyd hyd yma, gan ofyn iddi hefyd
sut mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r mater hwn. |
|
P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog unwaith
eto i ofyn am eglurder ynghylch a fydd gan fyfyrwyr sy’n cael addysg yn y
cartref yr un hawliau a’r un mynediad at gymwysterau â phlant eraill, ac
ynghylch a fyddant yn gallu sefyll eu harholiadau mewn canolfannau arholi
lleol, a hynny’n rhad ac am ddim. |
|
P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wrthi’n craffu ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil,
gan ofyn iddo ystyried a fydd yr anghysondeb a amlygwyd gan y deisebydd yn
parhau yn sgil y Bil, ac i ystyried a fyddai modd newid y Bil er mwyn mynd i’r
afael â’r mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu’r linc ar gyfer yr
ymgynghoriad cyfredol ynghylch y Bil gyda’r deisebwyr. Cytunodd y Pwyllgor i
ddod â'r ddeiseb yn ôl unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. |
|
P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd ar
ddylanwadu ar feddylfryd y Gweinidog, gan ychwanegu bod y Pwyllgor yn edrych
ymlaen at weld y canlyniadau terfynol maes o law. Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r
ddeiseb ar agor tan y bydd canlyniadau'r adolygiad cymhwystra ar gael. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod Sesiwn Dystiolaeth – P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |